Ymunwch â'n cymuned o Arwyr Sbwriel
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â'n cynllun 'Arwr Sbwriel'. Mae ymhell dros 1,000 o wirfoddolwyr ar draws y sir yn codi sbwriel ac yn gwneud gweithgareddau eraill i wella eu hamgylchedd lleol.
Mae ein cynllun gwirfoddoli anffurfiol yn darparu cymorth, gan gynnwys offer a chyngor i unrhyw un sydd am gasglu sbwriel a helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân. Gall hyn fod ar eich pen eich hun, gyda'ch teulu a'ch ffrindiau neu gydag Arwyr Sbwriel eraill. Mae llawer o fanteision ynghlwm wrth wirfoddoli; yn ogystal â mynd allan i'r awyr iach, gallwch hefyd gwrdd â phobl eraill o'r un anian, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n dda am eich cymdogaeth.
Rydym yn darparu:
Gwasgod lachar adlewyrchol
Teclyn codi sbwriel
Menig
Bagiau
Casglu gwastraff
Beth ydym yn gofyn i chi ei wneud
Iechyd a Diogelwch
Mae diogelwch ein holl wirfoddolwyr o'r pwys mwyaf i ni ac fel Arwr Sbwriel bydd gofyn i chi wrando ar gyflwyniad byr ynghylch diogelwch. Bydd hyn yn sicrhau eich bod wedi’ch diogelu o dan gynllun yswiriant yr awdurdod ac mae'r cyflwyniad wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer arwyr cofrestredig yn unig.
Os hoffech arwain grŵp neu os ydych yn rhan o grŵp o wirfoddolwyr sydd eisoes yn bodoli, anfonwch e-bost at: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk a byddwch yn cael gwybodaeth am gael yswiriant grŵp.
Bob tro y byddwch yn codi sbwriel, chi fydd yn gyfrifol am asesu'r amodau ar y diwrnod. Gallai hyn gynnwys amodau rhewllyd, gwelededd gwael, gwyntoedd cryfion ac ati. Os oes gennych unrhyw bryderon, peidiwch â bwrw ati i gasglu sbwriel.
Gallwn roi arweiniad a chyngor i chi, ond chi fydd yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun, felly peidiwch â chymryd unrhyw risgiau heb angen.
Rhannu gwybodaeth
Gofynnwn i chi gofnodi pryd, ble a faint o sbwriel rydych yn ei gasglu gan roi gwybod i ni. Mae'r wybodaeth hon yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae eich gwaith yn ei chael sy'n ein galluogi i barhau i ddarparu cymorth i wirfoddolwyr. Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i adnabod unrhyw dueddiadau sbwriel yn y Sir ac i ddatblygu ymgyrchoedd wedi'u targedu i fynd i'r afael â nhw.
Helpwch ni i hyrwyddo'r cynllun ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae preswylwyr yn aml yn cydnabod y gwaith gwych rydych yn ei wneud mewn dim o dro, ac rydym am sicrhau eu bod yn gwybod pa mor falch ydyn ni o'n holl wirfoddolwyr. Mae rhannu eich stori gyda ni ac eraill, yn rhan hanfodol o’r broses ac yn ffordd llawer mwy effeithiol o gyflwyno ein hystadegau a’n ffigurau. Eich straeon personol a’ch lluniau chi sy’n helpu i hyrwyddo’r cynllun ac yn helpu i amlygu pwysigrwydd gofalu am ein Sir Gaerfyrddin.
Os yw hyn yn berffaith i chi a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, yna cysylltwch â ni. Ar gyfer y rhai sydd dan 18 oed, gofynnwn i riant neu warcheidwad gofrestru ar gyfer eich cartref a mynd gyda chi ar sesiynau codi sbwriel.

HOLI AC ATEB
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor am fod yn Arwr Sbwriel.
Yn ogystal â'r offer a restrir uchod, byddwn yn darparu canllawiau ynghylch beth i'w gasglu a sut i gael gwared arno.
Rydym yn darparu arweiniad diogelwch a chefnogaeth barhaus trwy ein swyddog Cymoni Cymuned y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at: Prideinyourpatch@sirgar.gov.uk. Byddwch hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein llythyr newyddion Cymoni Cymuned.
Unrhyw dir cyhoeddus o fewn y sir - os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni. Rhowch ystyriaeth i unrhyw beryglon yn yr ardal lle'r ydych yn casglu sbwriel. Gofynnwn i chi beidio â chasglu sbwriel ger ffyrdd prysur, cyrsiau dŵr neu mewn mannau diarffordd neu dywyll. Cofiwch roi gwybod i eraill ble rydych chi a bod gennych fodd i gysylltu mewn argyfwng.
Gallwch godi unrhyw beth fel caniau, sigaréts, poteli plastig, papur lapio plastig, bagiau plastig, cwpanau diodydd, deunydd pacio cludfwyd, pecynnau creision, ac ati.
Efallai y bydd peth o’r sbwriel hwn yn edrych fel bod modd ei ailgylchu, ond os yw’n eithaf budr neu wedi rhydu, mae’n well ei waredu yn y bagiau a ddarperir. Rhowch eitemau yn eich cartref sy'n weddol lân yn unig. Os nad ydych yn siŵr, gweler ein Canllaw Ailgylchu A-Y.
Os gallwch wneud hynny, gallwch fynd â phecynnau gwydr di-dor adref gyda chi a'u hailgylchu yn eich bocs gwydr neu fynd â nhw i'ch banc poteli agosaf. Gellir ailgylchu Vapes/e-sigaréts mewn canolfannau ailgylchu.
Gofynnwn i chi beidio â chodi unrhyw wastraff peryglus sy'n cynnwys baw cŵn, gwydr, neu nodwyddau (neu unrhyw ddeunydd miniog), neu ddeunydd asbestos posibl.
Os byddwch chi'n dod o hyd i gyllell, ffoniwch 101, sef rhif yr heddlu mewn achos nad yw'n argyfwng. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Rydym yn darparu bagiau clir neu goch ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu fel y gallwn gydnabod bod Arwr Sbwriel LEQ wedi cynnal sesiwn codi sbwriel pan fyddwch yn rhoi'r rhain allan i'w casglu gyda'ch bagiau du. Nid yw'r rhain yn cael eu cyfrif fel rhan o'ch terfyn o dri bag du.
Os yw'r eitemau'n weddol lân a'ch bod am eu hailgylchu, gallwch fynd â nhw adref a'u rhoi yn y cynhwysydd ailgylchu priodol wrth ymyl y palmant. Does dim rhaid i chi wneud hyn a gallwch ddefnyddio'r bagiau coch neu'r bagiau clir os ydych chi'n dymuno.
Mae bagiau glas yn cael eu diddymu'n raddol ar draws y sir. Gallwch ddefnyddio unrhyw fagiau sbâr sydd gennych i gasglu eitemau ailgylchadwy wrth gasglu sbwriel. Fodd bynnag, os nad ydych bellach yn rhan o'r cynllun bagiau glas, peidiwch â'u rhoi allan i'w casglu gartref, gan na fyddwn yn gallu eu casglu.
Gallwch archebu rhagor o fagiau neu offer newydd drwy anfon e-bost atom ar: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk
Os ydych wedi cofrestru gyda Cadwch Gymru'n Daclus, gallwch gasglu bagiau coch Cadwch Gymru'n Daclus o un o'n Canolfannau Gwasanaeth Cwsmer. Mae teclynnau casglu sbwriel hefyd ar gael o Ganolfannau Casglu Sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus.
Ewch â'ch bagiau sbwriel adref gyda chi. Rhowch y bagiau sbwriel clir neu goch allan gyda'ch casgliad bagiau du arferol. Ni fydd y rhain yn cael eu cyfrif fel rhan o'ch lwfans 3 bag. Gallwch edrych pryd mae eich casgliad nesaf unrhyw bryd ar ein tudalennau gwe neu gofrestru ar gyfer negeseuon atgoffa ar e-bost/neges testun.
Peidiwch â gadael y gwastraff mewn bin sbwriel neu leoliad arall heb drefnu ymlaen llaw.
A fyddech cystal â llenwi ein ffurflen adrodd gwirfoddolwyr i roi gwybod i ni beth rydych wedi’i gasglu, ble a phryd. Gallwch hefyd drefnu bod eich gwastraff yn cael ei gasglu os na allwch roi'r gwastraff allan gyda'ch sbwriel.

Nid ydym yn darparu hyfforddiant; fodd bynnag, rydym yn cynnig canllawiau a chyngor i sicrhau eich bod yn ddiogel. Pan fyddwch yn cofrestru gofynnir i chi ddarllen y cyngor a derbyn y telerau ac amodau a nodwyd. Os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at: prideinyourpatch@sirgar.gov.uk
Gofynnwn i chi wisgo dillad priodol yn unol â'r tywydd. Er enghraifft, ar ddiwrnod braf, gwisgwch het a defnyddiwch eli haul. Gwisgwch ddillad i amddiffyn eich breichiau a'ch coesau rhag unrhyw fieri neu ddanadl poethion a gwisgwch esgidiau call bob amser (nid sandalau, fflip-fflops, sodlau). Darperir gwasgod adlewyrchol er eich diogelwch pellach.
Na, gallwch godi sbwriel pryd bynnag y mynnoch; nid ydym yn disgwyl i chi ddilyn unrhyw amserlen neu ofynion penodol. Mae rhai Arwyr yn gwirfoddoli bob dydd, unwaith yr wythnos neu unwaith y mis yn unig.
Na, cynllun gwirfoddoli yw hwn. Nid ydym yn disgwyl i chi deithio'n ddiangen, ac rydym yn darparu'r holl offer sydd eu hangen arnoch.
Gallwch! Ar gyfer grwpiau mwy fel grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau, cymdeithasau tenantiaid a thrigolion, a busnesau, gallwn helpu trwy roi benthyg offer ar gyfer digwyddiadau penodol. Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr, a byddwn mewn cysylltiad.
Rhowch wybod am sbwriel drwy lenwi ein ffurflen ar-lein, gallwch ychwanegu sylwadau a nodi eich manylion cyswllt. Os hoffech fod rhywun yn cysylltu â chi, nodwch hynny ar y ffurflen.
Ydyn, rydyn yn cefnogi'r ddau. I gael trafodaeth bellach, anfonwch e-bost at: Prideinyourpatch@sirgar.gov.uk