A-Y o Ailgylchu

O ddydd Llun 2 Tachwedd 2026, bydd rhai cartrefi'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd.

Rhagor o wybodaeth

 

Podiau coffi alwminiwm

Bagiau glas untro (ailgylchu cymysg)
Sach goch sy'n gallu cael ei hailddefnyddio (ailgylchu ar wahân)

Cofiwch

Gwnewch yn siŵr bod eitemau'n wag ac yn lân.

Sachau bwyd anifeiliaid

Bagiau glas untro (ailgylchu cymysg)
Bagiau coch untro (ailgylchu ar wahân)

Cofiwch

Gwnewch yn siŵr bod eitemau yn wag, yn lân ac yn sych.

Asbestos

Canolfannau ailgylchu

Cofiwch

Gallwch chi fynd â hyd at dri bag o'r eitem hon i'ch canolfan ailgylchu leol am ddim. Os oes gennych chi fwy na thri bag, ewch â nhw i Nant-y-caws, lle bydd angen i chi dalu ffi fach.

Balwnau

Bagiau du

Cofiwch

Cofiwch fod gan Sir Gaerfyrddin bolisi dim rhyddhau balwnau i'r awyr. Pan fydd balwnau'n cael eu rhyddhau i'r amgylchedd, sbwriel ydynt a gallant fod yn niweidiol i fywyd gwyllt.

Batris (cartref)

Canolfannau ailgylchu
Sach wen fach sy'n gallu cael ei hailddefnyddio (ailgylchu ar wahân)

Cofiwch

Mae gan lawer o siopau a swyddfeydd bwyntiau ailgylchu batris. Peidiwch â rhoi'r eitemau hyn mewn unrhyw gynhwysydd ailgylchu arall neu mewn bag du, gan y gallant achosi tân.

Hwb