Beth sy'n digwydd ym mis Tachwedd 2026?
O ddydd Llun 2 Tachwedd 2026 ymlaen, bydd rhyw un o bob tri chartref yn Sir Gaerfyrddin, yng ngorllewin y sir yn bennaf, yn newid i wasanaeth casglu newydd o'r enw Ailgylchu ar Wahân. Bydd pob cartref arall yn aros yn rhan o'r gwasanaeth casglu 'Ailgylchu Cymysg' (bagiau glas) presennol am y tro, ac yn newid i'r gwasanaeth newydd yn y dyfodol.
Bydd cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd yn cael eu gofyn i ddidoli eu deunydd ailgylchu i sachau a chynwysyddion ar wahân sy'n gallu cael eu hailddefnyddio. Fyddwn ni ddim yn casglu deunydd ailgylchu cymysg mewn bagiau glas untro o'r cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd mwyach.
Mae'r gwasanaeth newydd yn rhan o 'Lasbrint Casgliadau' Llywodraeth Cymruyn gyda'r nod o wella faint o ddeunydd ailgylchu sy'n cael ei gasglu a'i ansawdd, gan helpu Cymru i gyflawni cyfraddau ailgylchu uwch.
Rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau hyn mewn dau gam ar draws y sir. Rydyn ni'n ysgrifennu at bob cartref yn haf 2026 i gadarnhau a fyddwch chi’n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd neu'n parhau i dderbyn y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) presennol am y tro.
Gwybodaeth bwysig
Mae'r sachau a'r bagiau ailgylchu newydd bellach wedi cael eu dosbarthu i bob cartref sy'n newid i'r gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd. Mae cartrefi hefyd wedi derbyn cyflenwad blwyddyn o fagiau leinio ar gyfer eu cadi gwastraff bwyd.
Os bydd eich sachau ar goll neu wedi'u difrodi, neu os ydych newydd symud i mewn – gallwch archebu sach neu sach ychwanegol ar-lein.







