Ie plîs

 

  • Cewynnau tafladwy
  • Sbwriel sy’n gysylltiedig a newid cewynnau, fel gwlan cotwm, weips gwlyb, a bagiau cewynnau
  • Cynnyrch anymataliaeth, fel padelli gwelyau a leininau tafladwy, padiau anymatal, a phadiau cadair a gwely
  • Bagiau stoma/colostomi, bagiau cathetr a photeli wrin
  • Ffedogau a menig untro
  • Tiwbiau bwydo

 

Dim diolch

 

Rhowch yr eitemau hyn yn eich bagiau du:

  • Plasteri neu rwymynnau
  • Gwastraff glanweithiol
  • Gwastraff anifeiliaid

Dydyn ni ddim yn darparu casgliad ar gyfer nodwyddau a chwistrellau. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol, eich tîm nyrsys ardal neu 111 y GIG i gael cyngor.