Casgliad gwastraff â chymorth

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rhoi gwastraff a deunyddiau ailgylchu allan i'w casglu, efallai y gallwn ni helpu gyda chasgliad gwastraff â chymorth. Mae angen cwblhau cais a chael asesiad o'r eiddo cyn y gellir darparu'r gwasanaeth.

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i'r person sydd angen y gwasanaeth:

  • bod â chyflwr meddyliol neu gorfforol oherwydd salwch, oedran neu anabledd sy'n ei atal rhag mynd â'r cynwysyddion gwastraff neu fagiau i'r man casglu.
  • byw ar ben ei hun neu’n byw gydag eraill nad ydynt yn gallu mynd â'u gwastraff i fan casglu, oherwydd yr un rhesymau a nodir uchod. 
  • bod heb unrhyw gefnogaeth gan deulu, ffrindiau, neu eraill sy'n gallu helpu i roi gwastraff allan i'w gasglu.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi uwchlwytho dogfennau ategol mewn perthynas â'r ymgeisydd/ymgeiswyr. Gallai hyn gynnwys y canlynol os yw'n berthnasol i'r person neu'r personau sydd angen y gwasanaeth:

  • Copi o Fathodyn Glas yr ymgeisydd.
  • Llythyr dyfarniad ar gyfer PIP, Lwfans Gweini neu lwfans anabledd arall.
  • Llythyr meddygol yn nodi bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall. 
  • Llythyr meddyg yn dangos diagnosis o salwch meddwl difrifol.
  • Copi o fil neu lythyr y dreth gyngor yn enw'r ymgeisydd (yn dangos gostyngiad meddiannaeth sengl)
  • Llythyr apwyntiad gan ymgynghorydd/arbenigwr mewn perthynas â chyflwr sy'n effeithio ar allu'r ymgeisydd i gario'r gwastraff allan i'w gasglu.

GWNEUD CAIS AM GASGLIAD GWASTRAFF Â CHYMORTH

I weld sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio'r data personol a gesglir drwy'r ffurflen hon, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn cysylltu â chi bob 3 blynedd i wirio bod angen cymorth arnoch o hyd a rhoi cyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud.  Gallwch hefyd wneud cais am gymorth oherwydd cyflwr dros dro, am gyfnod o 6 mis.

Os na allwch gwblhau'r cais eich hun ar-lein, gallwch gael rhywun arall yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar eich rhan, ond bydd angen i’r person hynny gael mynediad at y dogfennau personol perthnasol a restrir uchod.  Fel arall, gallwch wneud cais yn bersonol drwy wneud apwyntiad yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid Hwb lle byddant yn llenwi'r ffurflen i chi.  Bydd angen i chi fynd â'ch dogfennu gyda chi i wneud hyn.   

Pan fyddwch wedi gwneud cais, cofiwch os ydych yn newid cyfeiriad, angen atal neu ganslo'r gwasanaeth cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i TSWasteOps@sirgar.gov.uk