Tai Fforddiadwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024

Gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell ar gyfer symiau cyfnewid i ddarganfod y cyfraniad sydd ei angen tuag at ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer ar safleoedd sy'n cynnwys llai na 5 preswylfa. Mae hyn yn unol â Pholisi AH1 o'r Cynllun Datblygu Lleol. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am Gyfraniadau Tai Fforddiadwy ar safleoedd sy'n cynnwys 5 preswylfa neu fwy.

Mae'r swm cyfnewid yn amrywio ar draws y Sir ac mae'n seiliedig ar werthoedd tai cyfredol yn yr ardaloedd hynny. Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol Mabwysiedig Tai Fforddiadwy (CCA) - Mehefin 2018 yn darparu gwybodaeth ar sut y caiff y cyfraniad tai fforddiadwy ei gyfrifo a pham y mae ei angen ar gyfer pob datblygiad preswyl.

Llenwch y meysydd isod.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin

Cynllunio