Hwb Sgiliau
Rydym yn wasanaeth menter gymdeithasol wedi’i leoli yng Nghross Hands, sy’n cynnig:
- Sesiynau crochenwaith a gwaith coed lle mae cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ymarferol ac yn cynhyrchu eitemau wedi’u gwneud â llaw.
- Cymorth Cyflogadwyedd, gyda chysylltiadau â chyfleoedd gwirfoddoli a gwaith drwy dîm cyflogadwyedd.
- Lleoliadau Gwirfoddoli â Chymorth lle gall unigolion ddysgu sut i wasanaethu cwsmeriaid, defnyddio til, cylchdroi stoc a llawer mwy. Byddwn yn eu cefnogi i gwblhau hyfforddiant hylendid bwyd achrededig a hyfforddiant perthnasol arall. Rydym yn defnyddio dull “cefnogi ac yna cilio”, gan gyflwyno unigolion i ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned leol.
- Ardal siop fach sy’n gwerthu cynnyrch sydd wedi’i ddylunio a’i wneud gan ein crefftwyr talentog.
Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy’n bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar elw yn unig, mae mentrau cymdeithasol yn ail-fuddsoddi eu hincwm i gyflawni nodau cymdeithasol.
Rydym yn darparu cyfleoedd i unigolion sy’n wynebu rhwystrau i hyfforddiant a gwaith, gan gynnwys y rhai gyda:
- Anableddau dysgu
- Anableddau corfforol
- Cyflyrau niwroamrywiol
- Cyflyrau iechyd meddwl
Rydym yn helpu cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau i wirfoddoli a gwaith drwy:
- Datblygu eu sgiliau
- Eu helpu i ennill annibyniaeth
- Cynyddu hyder
- Gwella iechyd a lles
Mae ein Cysylltwyr Cymunedol yn darparu:
- Gwybodaeth am weithgareddau a grwpiau yn eich cymuned leol.
- Cymorth i gael mynediad at grwpiau cymunedol, ar sail cymorth sy'n lleihau'n raddol wrth i'ch hyder a'ch annibyniaeth gynyddu.
Rydym yn sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan greu amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar waith ac yn adeiladu ar gryfderau unigol.
Os ydych yn gymwys i fynychu sesiynau Crochenwaith a Gwaith Coed, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol / rheolwr gofal. Efallai y cewch gynnig Asesiad Gofal – mae mwy o wybodaeth ar gael yma am yr hyn sy’n digwydd yn ystod asesiad. Sut i gael help
Ar ôl yr asesiad, os ydych yn gymwys i gael gwasanaethau, byddwch yn cymryd rhan yn diweddaru eich cynllun gofal a chymorth – bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys.
Efallai y bydd tâl am y gwasanaeth cymorth hwn; gallwch gael mwy o wybodaeth yma: Talu am Ofal Gartref.
Byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol a fydd yn penderfynu faint y bydd angen i chi gyfrannu tuag at eich gwasanaeth.
Cyn i’ch gwasanaeth ddechrau, bydd gennych gyfle i ymweld â’n gwasanaethau a chwrdd â staff i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i chi.
Nid oes angen gweithiwr cymdeithasol na Chynllun Gofal a Chymorth arnoch i gael eich atgyfeirio at ein cydgysylltwyr gwirfoddoli a chyflogaeth a'n cysylltwyr cymunedol.
Gallwn hefyd eich cyfeirio at asiantaethau eraill os na allwn eich helpu.
Unwaith y byddwch yn cael eich cefnogi gennym ni, ein prif nodau yw canlyniadau unigol a chynnydd.
Byddwn bob amser yn gosod dyddiad adolygu ac yn adolygu amcanion personol.
Byddwn yn gweithio gyda’n tîm Cyflogadwyedd, sy’n cefnogi unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a gwaith â thâl.
Mae’r siop ar agor Dydd Llun i Dydd Gwener 9:00yb - 3:00yp.









