Iechyd, lles a hamdden
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023
Mae Autism Wellbeing CIC yn fenter gymdeithasol ddielw yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar y cyd â theuluoedd ac unigolion y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt.
Os oes gennych ymholiadau am unrhyw un o'n gwasanaethau, mae croeso i chi gysylltu â Rorie Fulton ar 07393 664 048 neu anfonwch neges e-bost at roriefultonaw@gmail.com. Mae Rorie yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener.
Mae gwasanaethau'n cynnwys:
- Cymorth dros y ffôn
- Cyrsiau hyfforddi ar-lein: Making Sense of Autism and Sensory Trauma: autism, sensory difference and the daily experience of fear
- Cwrs Ymwybyddiaeth Fewndderbyniol (ar-lein)
- Rhaglen i rieni, The Just Right State (ar-lein)
- Making Sense of Autism, cwrs dysgu dan arweiniad (ar-lein/dros y ffôn)
- Grŵp Cymorth gan Gyfoedion i Gyfoedion Ar-lein ar gyfer Oedolion Awtistig
- Grŵp Cymorth gan Gyfoedion i Gyfoedion Ar-lein ar gyfer Rhieni Plant Awtistig
- Therapi seicolegol i bobl awtistig (ar-lein)
- Therapi seicolegol i rieni ac i frodyr a chwiorydd (ar-lein)
- Llyfrgell Fenthyca, Cyfarpar Synhwyraidd
Mae Tîm Iechyd Ieuenctid Iechyd Da yn gweithio gyda phobl ifanc i helpu i gynnal eu hiechyd a'u lles.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os yw'r canlynol yn wir:
- rydych yn berson ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
- rydych rhwng 11 a 25 oed
- nid ydych mewn addysg orfodol
Rhif Ffôn: 01554 748085
Iechyd Da: Tîm Iechyd Ieuenctid, Coleg Sir Gar, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin, SA31 1NH
"Grŵp i famau (ac i dadau) plant awtistig sy'n byw yn Llanelli a'r cyffiniau. Dyma gyfle inni gwrdd ac i'n plant gael amser gwych"
Gwasanaeth Cyfeillio Ieuenctid MIND Llanelli ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed.
Os ydych yn teimlo eich bod wedi eich ynysu neu'n unig, mae un o'n cyfeillion gwirfoddol yma i helpu. Rydym yn rhoi'r cyfle i unigolion rannu unrhyw broblemau a dod ag ynysu cymdeithasol i ben.
Rhif Ffôn: 01554 776306
Cyfeiriad e-bost: befriending@llanelli-mind.org.uk
Mae gwirfoddolwyr gweithgar y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant awtistig a'u teuluoedd yn eu hardal leol.
Tudalen Facebook Cangen Sir Gaerfyrddin
Cyfeiriad E-bost: carmarthenshire.branch@nas.org.uk
Tîm Niwroddatblygiadol
Adeilad 1, Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB
Gwasanaeth Asesu Awtistiaeth, Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Rhif Ffôn: 01267 283077
Cyfeiriad e-bost: childasd.referrals@wales.nhs.uk
Mae Sandy Bear yn elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaeth i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed sydd wedi dioddef, neu sy'n debygol o ddioddef profedigaeth.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cefnogi dros filiwn o gyfleoedd ar lawr gwlad ar gyfer chwaraeon sy'n benodol i bobl anabl a chwaraeon cynhwysol bob blwyddyn.
Mae 170 o glybiau ledled y wlad wedi cyflawni Safon Rhuban Clwb Insport neu'n uwch, ac mae llawer mwy ar eu taith gydag Insport.
Cyfeirlyfr chwaraeon yn yr ardal i bobl ag anableddau
Gwefan Swyddogol Chwaraeon Anabledd Cymru
Cuppa a Sgwrs ar gyfer rhieni/gofalwyr, at Canolfan John Burns Centre.
Dyddiadau i ddod:
Ebrill 16 a 30, 2024
Mai 7 a 21, 2024
Mehefin 4 a 18, 2024
Gorffennaf 2 ac 16, 2024
E-bostiwch am fwy gwybodaeth: info-ajmartin12@gmail.com
Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc
Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc - GamCare
Gall y Gwasanaeth i Bobl Ifanc gan GamCare roi cymorth i unrhyw un sy'n 18 oed ac iau ledled y DU (gan gynnwys Gogledd Iwerddon) sydd naill ai 'mewn perygl' neu'n profi niwed oherwydd gamblo.
Gall hyn fod oherwydd eu bod yn gamblo eu hunain neu oherwydd bod arferion gamblo rhywun arall yn effeithio arnyn nhw. Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn hyblyg ac yn gyfrinachol, ac rydym yn sicrhau bod y person ifanc yn cael y cymorth mwyaf priodol.
Gall pobl ifanc, ac unrhyw un sy'n poeni am berson ifanc a gamblo, gysylltu â ni:
- drwy'r Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol – 24 awr y dydd drwy ffonio Rhadffôn 0808 8020 133, neu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrs fyw – gellir dod o hyd iddo yma, neu drwy ein gwefan bwrpasol ar gyfer pobl ifanc, rhieni ac athrawon, sef BigDeal.org.uk,
- drwy e-bostio YoungPeopleService@gamcare.org.uk (ein nod yw ymateb erbyn y diwrnod gwaith nesaf)
- drwy'r ffurflen atgyfeirio isod
Gallwn ddarparu ystod o opsiynau i bobl ifanc fel y gallan nhw ddod o hyd i'r cymorth cywir sy'n cynnwys:
- Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad drwy ein Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol (dros y ffôn neu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrs fyw)
- Ymyriadau Byr neu Ymyriadau Byr Estynedig (gall hyn fod yn un alwad, neu'n gyfres o alwadau i ofyn sut maen nhw'n teimlo)
- Dulliau hunangymorth
- Ymyriadau strwythuredig wedi'u teilwra i anghenion y person ifanc
Sut bynnag rydych yn teimlo, rydyn ni yma i helpu
Gallwch gael cymorth diogel yn ddienw ac am ddim.