Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Ni yw’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

 

Rydyn ni’n gweithio i ddod o hyd i gartrefi diogel, cariadus a pharhaol i blant ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru na allant fyw gyda'u teuluoedd geni, a hynny gan ddarparu cymorth i deuluoedd mabwysiadu, plant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi’u mabwysiadu, a theuluoedd geni.

Mae pob plentyn yn wahanol, ac felly’r bobl sy’n mabwysiadu. Rydym yn chwilio am bobl o ystod eang o gefndiroedd sy’n gallu cynnig sefydlogrwydd, gofal ac ymrwymiad i blant.

Os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn, gallech chi fabwysiadu. Nid oes terfyn uchaf o ran oedran. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion a chyplau, beth bynnag yw eich statws perthynas, rhywioldeb, credoau neu ethnigrwydd, a p’un a oes gennych blant eisoes ai peidio.

Y peth pwysicaf yw beth gallwch chi ei gynnig i fywyd plentyn. Byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r hyder, y sgiliau a’r gwytnwch sydd eu hangen i ddod yn rhiant mabwysiadol.

Diddordeb mewn mabwysiadu?

Ffyrdd o fabwysiadu

Rydym yn darparu lefel uchel o gymorth i fabwysiadwyr a'u teuluoedd. Rydym yn darparu ystod lawn o wasanaethau, o hyfforddiant cyn cymeradwyo i gymorth mabwysiadu.

Y broses fabwysiadu

Mae pob taith fabwysiadu yn wahanol, a byddwn ni yma i'ch cefnogi a'ch arwain o'r dechrau i'r diwedd.

Pam dylech chi fabwysiadu gyda ni?

Pan rydych chi'n dewis Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydych chi'n dewis gwasanaeth a fydd yn sefyll wrth eich ochr o'ch ymholiad cyntaf a drwy gydol eich taith fel teulu sy'n mabwysiadu.

Cymorth mabwysiadu

Ar gyfer teuluoedd sy'n mabwysiadu

Ydych chi’n meddwl am fabwysiadu neu eisoes yn rhianta drwy fabwysiadu? Rydyn ni yma i’ch cefnogi ar bob cam.

Ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion mabwysiedig

P’un a gawsoch chi eich mabwysiadu yn ddiweddar neu flynyddoedd lawer yn ôl, mae cymorth ar gael i chi drwy gydol eich bywyd.

Ar gyfer teuluoedd geni

Os yw rhywun yn eich teulu (boed yn blentyn, ŵyr, brawd neu chwaer, nith neu nai) wedi’i fabwysiadu, mae cymorth ar gael i chi.

Digwyddiadau gwybodaeth

Meddwl am fabwysiadu? Mae ein digwyddiadau gwybodaeth yn ffordd hamddenol a chyfeillgar o ddysgu mwy am y broses, cwrdd â'n tîm, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Gweld pob digwyddiad

Y newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf, straeon mabwysiadu ysbrydoledig, blogiau a diweddariadau gan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

GWEld Y NEWYDDION DIWEDDARaf

Gallwch chi weld newyddion a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleoedd o ran mabwysiadu drwy gofrestru i dderbyn diweddariadau yn syth i'ch mewnflwch.

COFRESTRwch i gael ein llythyr newyddion

Eisoes yn mabwysiadu gyda ni? Rydyn ni hefyd yn cynnig llythyr newyddion pwrpasol i deuluoedd mabwysiadu, sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol, cymorth a diweddariadau

CYSYLLTwch  NI I GOFRESTRU

Cysylltu â ni

P’un a ydych chi’n ystyried mabwysiadu, angen cymorth ychwanegol, neu os hoffech ddysgu mwy – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Llenwch y ffurflen isod a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Ein nod yw ymateb i bob ymholiad cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Cysylltu â ni

 

Mae llawer o'r cwestiynau rydyn ni'n eu derbyn yn cael eu hateb yn ein adran cwestiynau cyffredin, gan gynnwys gwybodaeth am y broses mabwysiadu, cymhwyster a gwasanaethau cymorth.

GWELD CWESTIYNAU CYFFREDIN

 

Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

3 Heol Spilman

Caerfyrddin

SA31 1LE

 

Oriau busnes:

Llun i Iau: 9am – 5pm

Dydd Gwener: 9am – 4:30pm