Ffyrdd o fabwysiadu
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/09/2026
Mabwysiadu plentyn
Mae mabwysiadu yn darparu teulu parhaol i blentyn na all fyw gyda'i rieni geni.
Mae mabwysiadu yn benderfyniad sy'n newid eich bywyd chi a'r plentyn. Pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, daw'n aelod llawn a chyfreithiol o'i deulu mabwysiadol am oes.
Mae oedran, cefndir, a phrofiad plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu yn amrywio. Mae rhai yn blant iau, rhai yn hŷn, rhai yn frodyr a chwiorydd sydd angen aros gyda'i gilydd, ac mae gan rai anghenion ychwanegol.
Rydym yn annog mabwysiadwyr i aros yn agored eu meddwl am y math o blentyn maent yn teimlo gallant ei rianta. Po ehangaf eich ystyriaethau, po fwyaf o blant y byddwch chi'n gallu cynnig sefydlogrwydd, synnwyr o berthyn, a chartref cariadus iddynt.
Sefydlogrwydd Cynnar Cymru
Mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC) yn helpu plant i gael sefydlogrwydd cyn gynted â phosibl.
Pan gaiff plant eu symud o'u teulu geni am y tro cyntaf, maent fel arfer yn cael eu gosod gyda gofalwyr maeth tra bo penderfyniadau'r llys yn cael eu gwneud. Os mai'r cynllun yw mabwysiadu, caiff plant eu symud fel arfer o ofal maeth i'w teulu mabwysiadol.
Mae SCC yn caniatáu i blant gael eu lleoli'n gynnar gyda gofalwyr sydd wedi'u cymeradwyo fel gofalwyr maeth a mabwysiadwyr. Mae hyn yn lleihau sawl gwaith y bydd plant yn symud ac yn rhoi iddynt y cyfle i feithrin ymlyniadau cynnar.
Mewn nifer fach o achosion, gall y llys benderfynu y dylai plentyn ddychwelyd at ei deulu geni. Golyga hyn fod angen i ofalwyr SCC reoli rhywfaint o ansicrwydd tra bo penderfyniadau'n cael eu gwneud.
Os ydych chi'n teimlo y gallech chi reoli sefyllfa ac iddi beth ansicrwydd fel nad oes rhaid i blentyn symud nifer o weithiau, efallai fod y trywydd hwn yn iawn i chi.
Mabwysiadu plentyn o dramor
Mae mabwysiadu rhyngwladol yn golygu mabwysiadu plentyn o wlad arall.
Mae'n bwysig bod mabwysiadwyr yn deall ac yn parchu cefndir diwylliannol, treftadaeth a hunaniaeth y plentyn. Gall cefnogi plant i gynnal cysylltiadau â'u gwlad enedigol fod yn rhan bwysig o'u llesiant gydol oes.
Mae'r broses asesu yn debyg i fabwysiadu yn y DU, gyda gofynion ychwanegol. Pan fydd wedi'i gwblhau, cyflwynir yr asesiad i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.
Bydd angen i chi deithio i wlad y plentyn fel rhan o'r broses gyflwyno.
Mae mabwysiadu rhyngwladol yn cynnwys costau ychwanegol, gan gynnwys ffioedd asesu, treuliau teithio a chostau cyfreithiol. Mae'r rhain yn amrywio, yn dibynnu ar y wlad dan sylw. Mae pob gwlad hefyd yn pennu ei meini prawf a'i gofynion ei hun.
Mabwysiadu llysblentyn
Mabwysiadu gan lys-riant yw pan fydd rhywun yn gwneud cais am fabwysiadu'n gyfreithiol blentyn ei bartner sydd o dan 18 oed.
I wneud cais, mae'n rhaid eich bod:
- Yn 21 oed neu'n hŷn
- Wedi byw yn y DU am o leiaf flwyddyn
Nid oes angen i chi fod yn briod, er bod disgwyl i gyplau fel arfer fod mewn perthynas sefydlog am o leiaf ddwy flynedd.
Cyn gwneud cais i'r llys, rhaid i chi roi gwybod i'ch awdurdod lleol am eich bwriad i fabwysiadu. Rhaid gwneud hyn o leiaf 3 mis cyn cyflwyno eich cais i'r llys. Bydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad ac yn darparu adroddiad i'r llys. Mae ffi llys yn daladwy wrth ymgeisio.
Caiff barn y plant ei hystyried bob amser.
Mae'n bwysig deall bod mabwysiadu gan lys-riant yn un o sawl opsiwn cyfreithiol. Gall dewisiadau eraill gynnwys cytundebau cyfrifoldeb rhieni neu orchmynion trefniadau plentyn. Rydym yn annog teuluoedd i ystyried pob opsiwn yn ofalus er mwyn penderfynu beth sydd orau i'w hamgylchiadau.
