Pam mabwysiadu gyda ni
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/09/2026
Mae mabwysiadu yn newid bywydau. Mae'n gyffrous, yn rhoi boddhad enfawr, ac, ar adegau, yn heriol. Pan fyddwch chi'n dewis Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydych chi'n dewis gwasanaeth a fydd yn sefyll ochr yn ochr â chi o'ch ymholiad cyntaf a thrwy gydol eich taith.
Rydym yn cyfuno dull mabwysiadu cenedlaethol â gwybodaeth leol gref a pherthnasoedd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Beth allwch chi ei ddisgwyl wrthon ni:
- Dull a gydnabyddir yn genedlaethol, wedi'i weithredu'n lleol
- Hyfforddiant cyn ac ar ôl cael eich cymeradwyo
- Paru gofalus, ystyriol sy'n canolbwyntio ar sefydlogrwydd hirdymor
- Cefnogaeth leol, bwrpasol a pharhaus
- Mynediad at rwydwaith cryf o fabwysiadwyr ar draws y rhanbarth

Sut rydyn ni'n eich cefnogi
Byddwn yn gweithio gyda chi i:
- Edrych a yw mabwysiadu'n iawn i chi
- Eich paratoi at fod yn rhiant mabwysiadol trwy hyfforddiant ac asesu
- Nodi'r plentyn neu'r grŵp brodyr a chwiorydd iawn i chi
- Eich cefnogi drwy gyflwyno a lleoli'n gynnar
- Eich helpu i ddeall anghenion a phrofiadau eich plentyn
- Darparu cefnogaeth a chyngor parhaus ar unrhyw adeg ar ôl lleoli a mabwysiadu
Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben pan roddir Gorchymyn Mabwysiadu. Rydyn ni yma ar gyfer y tymor hir.
