Llwyddiannau Lleol

Maethu Cymru Sir Gâr

Amy: Tyfu lan mewn Teulu Maeth

I Amy, mae tyfu lan fel plentyn gofalwr maeth wedi bod yn brofiad newidiodd ei bywyd. Wyth mlynedd yn ôl, croesawodd ei theulu fachgen bach ag anghenion dysgu cymhleth i’w cartref, ac o’r foment honno ymlaen daeth maethu’n rhan o’i bywyd dyddiol.

“Mae ffrindiau’n aml yn gofyn a ydw i’n gweld pethau’n anodd ac a ydy hi’n galed rhannu fy rhieni gyda fe, ond alla i ddim dychmygu peidio bod yn rhan o deulu maeth. Ar ôl wyth mlynedd, mae e’n frawd arall i fi! Os rhywbeth, fe ddaeth â’n teulu at ei gilydd a’n gwneud ni’n agosach,” dywed Amy.

Mae Amy a’i theulu wedi croesawu’r heriau a’r llawenydd sy’n perthyn i faethu, ac mae’r cwlwm rhyngddi hi a’i brawd maeth bellach yn un na ellir ei dorri. Mae’r tŷ’n fwy tawel pan nad yw yno, ac maent methu aros tan ei fod yn dod nôl.

Un o’r pethau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i Amy yw gweld yr effaith gadarnhaol mae cefnogaeth ei theulu yn ei chael nid yn unig ar ei brawd maeth, ond ar ei theulu geni yn ei gyfanrwydd.

“Rydym ni’n cadw mewn cysylltiad â’i deulu, ac mae ganddo gyswllt rheolaidd â nhw, sydd mor braf, ac mae’n rhoi boddhad mawr gwybod eich bod chi’n helpu a chefnogi teulu cyfan ac nid un person yn unig.”

Mae brawd maeth Amy, â’i bersonoliaeth lawen a’i wên ddireidus, wedi bywiogi eu bywydau mewn ffyrdd dirifedi.

“Mae e mor hapus a direidus, ac fe allai roi gwên ar wyneb unrhyw un, dim ots pa mor anodd eich diwrnod yn y gwaith, yn yr ysgol, neu hyd yn oed yn ystod pandemig byd-eang! Mae’n rhoi rheswm i ni fynd allan a chadw’n brysur trwy wneud gweithgareddau hwyliog!”

Mae maethu wedi gwneud sut argraff ar Amy, mae hi eisoes yn ystyried gwneud hynny ei hun yn y dyfodol.

“Pe bawn i’n cael y cyfle wedi symud allan, bydden i’n bendant yn meddwl am fynd ati i faethu!” meddai.

Mae stori Amy yn ddathliad o’r rôl unigryw sydd gan blant gofalwyr maeth, a sut gall maethu gryfhau teuluoedd, creu perthnasoedd gydol oes, a dod â llawenydd di-ben-draw.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda’ch awdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin neu i wneud ymholiad, cysylltu â ni.

Brett a Wendy: Dathlu 30 Mlynedd o Faethu

Cwrdd â Brett a Wendy

Mae Brett a Wendy wedi nodi 30 mlynedd anhygoel o ymroddiad i faethu gyda Chyngor Sir Caerfyrddin! Dechreuodd eu taith faethu ym 1994, ar ôl symud i ran wledig o Sir Gaerfyrddin o Swydd Gaerloyw ym 1984 gyda’u dau blentyn ifanc.

Ar ôl i’w plant ymgartrefu mewn ysgolion lleol, gwnaeth Wendy, a oedd â phrofiad fel gwarchodwr plant ac a oedd yn gweithio mewn ysgol arbennig i blant ag anableddau, gymryd eu cam cyntaf ar eu taith faethu – gan fynd at yr awdurdod lleol ynghylch dod yn ofalwyr maeth, ac nid ydynt erioed wedi edrych yn ôl!

Tan yn ddiweddar, bu Brett a Wendy yn gweithio’n llawn amser wrth faethu hefyd. Roedd Wendy yn gweithio mewn ysgol, a oedd yn caniatáu iddi fod adref yn ystod gwyliau, gan roi amser iddi ofalu am eu plant maeth a’u cludo nhw a’u hwyrion i ysgolion lleol..

Teulu Brett a Wendy

Un o gryfderau mwyaf Brett a Wendy fel gofalwyr maeth yw eu gallu i groesawu grwpiau o frodyr a chwiorydd i’w cartref, gan helpu i gynnal y cysylltiadau rhyngddynt.

“Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa o allu cymryd grwpiau o frodyr a chwiorydd, sy’n gallu bod yn llawer gwell i’r plant yn eich gofal.” meddai Wendy.

Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi maethu 32 o blant, llawer ohonyn nhw’n dal i gadw mewn cysylltiad! Wrth ychwanegu at eu teulu, mabwysiadodd y cwpl ddau frawd, 6 a 7 oed ar y pryd, sydd bellach yn eu tridegau.

Tyfodd dynameg eu teulu ymhellach yn 2008 pan symudodd eu merch, Emma, a’i theulu yn ôl i fyw gyda nhw. Bu Brett a Wendy yn trosi hen feudy yn gartref i Emma, ei gŵr Carwyn, a’u dau fab, gan greu aelwyd aml-genhedlaeth lle daeth y plant maeth yn rhan o rwydwaith teuluol ehangach. Mae eu hwyrion, sydd bellach yn 18 a 15 oed, wedi bod yn allweddol wrth groesawu plant maeth i’r cartref.

Mae dau frawd Wendy a’u teuluoedd yn byw yn lleol, ac maen nhw hefyd yn chwarae rhan fawr o ran maethu, cynnig cefnogaeth a darparu ymdeimlad o berthyn i’r plant.

Mae teulu estynedig Brett yn Swydd Gaerloyw hefyd yn ymweld yn aml, gan roi profiad hyd yn oed ehangach o fywyd teuluol i’r plant.

Trin Pob Plentyn Fel Teulu

Mae Brett a Wendy yn angerddol iawn am wneud i bob plentyn y maent yn gofalu amdano deimlo fel rhan o’u teulu. Maen nhw’n mynd y tu hwnt i hyn i gynnwys y plant ym mhob gweithgaredd teuluol – o wyliau i deithiau dydd i gyfarfodydd teuluol bob dydd. Mae cyfranogiad eu teulu estynedig yn helpu plant maeth i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn rhan o rywbeth mwy.

I’r cwpl, nid gofal yn unig yw maethu, mae’n ymwneud â rhoi cyfleoedd i blant dyfu, ffynnu a phrofi bywyd i’r eithaf. P’un a yw’n cerdded, beicio, nofio neu chwaraeon tîm, mae Brett a Wendy yn annog y plant yn eu gofal i roi cynnig ar weithgareddau newydd a magu hyder.

Pwysigrwydd Aros yn Lleol

Mae Brett a Wendy hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd aros yn lleol. Mae’r gefnogaeth bwrpasol gan yr awdurdod lleol wedi helpu Brett a Wendy i lywio cymhlethdodau maethu a gweithio tuag at y canlyniadau gorau i bob plentyn.

“Rydym wedi gweld bod aros o fewn ein hawdurdod lleol yn bwysig gan ein bod ni wedi cael cysondeb gyda staff – rhai ohonyn nhw wedi bod yno cyhyd â ni.

“Maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi’r plant yn eu gofal a chanfod y canlyniad gorau i’w sefyllfaoedd.

“Mae’n gwneud ein rôl yn haws pan fydd gennym dîm o bobl yr ydym yn gwybod eu bod yn gweithio er budd gorau’r plant yn ein gofal” meddai Wendy.

Eiliadau Cofiadwy

Ymysg eu profiadau mwyaf cofiadwy mae cefnogi person ifanc o 11 oed drwy nifer o drawsnewidiadau sylweddol mewn bywyd.

“Yn ddiweddar fe wnaethon ni gefnogi person ifanc o 11 oed drwy’r ysgol, profedigaeth, y coleg, symud i lety byw â chymorth, cael swydd, ac mae bellach wedi symud i’w fflat ei hun yn nhref Caerfyrddin lle cafodd ei fagu.” Mae Wendy yn adlewyrchu’n falch.

Atgof melys arall yw meithrin dau blentyn sydd wedi bod gyda nhw ers dros dair blynedd bellach.

“Maen nhw wedi setlo yn yr ysgol ac maen nhw’n rhan fawr o’n teulu ni ac wedi dod yn rhan fawr o’n teulu estynedig.” meddai Brett.

Maen nhw’n cydnabod nad yw maethu heb ei heriau, ond mae eu dull gweithredu – sydd wedi’i wreiddio mewn amynedd, cariad, a dealltwriaeth – wedi helpu plant i dyfu ar eu cyflymder eu hunain.

Dod o Hyd i Lawenydd mewn Dechreuadau Newydd

Mae Brett a Wendy hefyd wedi maethu babanod sydd wedi cael eu mabwysiadu, ac er y gall fod yn heriol gadael iddyn nhw fynd, maen nhw’n ei chael hi’n werth chweil gwybod eu bod wedi rhoi dechrau cryf mewn bywyd i’r plentyn. Mae eu gwytnwch a’u hymroddiad yn tystio i’r cysylltiadau dwfn y maent wedi’u meithrin gyda’r plant y maent wedi’u maethu.

Mae eu hetifeddiaeth fel gofalwyr maeth wedi’i gwreiddio mewn cariad, teulu, a chymuned – stori lwyddiant wirioneddol sy’n parhau i siapio bywydau plant yn Sir Gaerfyrddin.

Ydy profiad Brett a Wendy wedi eich ysbrydoli i feddwl am faethu?

Os yw stori Brett a Wendy wedi eich ysbrydoli i ystyried maethu a darparu gofal i blant sydd ei angen, cysylltwch â ni heddiw. Gallech gynnig y cariad, y gefnogaeth a’r sefydlogrwydd a all newid bywyd plentyn.

Taith Emma o aelwyd faethu i waith cymdeithasol

I Emma, nid ei swydd yn unig yw maethu – mae’n rhan o bwy yw hi. Wedi ei magu ar aelwyd faethu yn Sir Gaerfyrddin, gwelodd â’i llygaid ei hun yr effaith y gall cartref diogel, gofalgar ei chael ar fywyd plentyn. Dyma'r profiad a’i hysbrydolodd i ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol.

“Gwelais pa mor bwysig oedd hi i blant a phobl ifanc deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael gofal, yn enwedig pan oedd eu bywydau'n teimlo’n anniogel ac yn anrhagweladwy.” 

Bellach, gyda 23 mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau plant a dwy flynedd yn y tîm recriwtio maethu, mae Emma yn gweithio i ganfod ac asesu gofalwyr maeth ar draws Sir Gaerfyrddin. Mae ei rôl yn fwy na hyn – mae’n ymwneud ag adeiladu cymuned sy’n sicrhau y gall plant a phobl ifanc aros yn yr ardal y maent yn ei galw’n gartref. Mae cariad yn trawsnewid bywydau, ac mae Emma yn gweld hynny bob dydd trwy waith anhygoel ein gofalwyr maeth a thrwy wên a llygaid y plant.

“Pan fydd plant yn cael eu maethu’n lleol, gallan nhw aros yn eu hysgolion, cadw eu ffrindiau, ac aros yn agos at y lleoedd a’r bobl y maen nhw’n eu hadnabod. Mae’n ymwneud â rhoi sefydlogrwydd iddyn nhw ac ymdeimlad o berthyn, sy’n hanfodol ar gyfer eu datblygiad a’u llesiant.”

Mae Emma yn angerddol am y gymuned faethu gref yn Sir Gaerfyrddin, cymuned y mae hi'n credu sy'n hanfodol ar gyfer cefnogi gofalwyr a phlant fel ei gilydd.

“Pobl gyffredin yw gofalwyr maeth sy'n gwneud pethau hynod.

"Mae gyda ni gymuned faethu arbennig. Rydym yn cynnal digwyddiadau i ddod â phawb ynghyd, ac mae ein mentoriaid mwyaf profiadol bob amser ar gael i gynnig cymorth a rhannu eu gwybodaeth."

Wrth bwysleisio pwysigrwydd maethu lleol, dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae cadw plant a phobl ifanc yn eu cymunedau yn eu galluogi i gynnal cysylltiadau hanfodol gyda’u hysgolion, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth. Mae’n ymwneud â rhoi’r cyfle gorau posibl iddyn nhw ffynnu mewn amgylchedd cyfarwydd a chariadus.”

Mae Emma hefyd yn gweithio i herio camsyniadau am faethu a gwaith cymdeithasol.

"Mae pobl yn aml yn meddwl bod gweithwyr cymdeithasol yno i farnu... Ond ein gwaith ni yw helpu a gweithio ochr yn ochr â gofalwyr maeth i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau dros blant a phobl ifanc yn ein cymuned."

Mae cefnogi gofalwyr maeth newydd yn rhan bwysig o waith Emma. Mae'r tîm maethu yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i sicrhau bod pob gofalwr yn gwbl barod ar gyfer heriau a phleserau maethu.

"Rydym ni am i ddarpar ofalwyr wneud penderfyniad gwybodus, dyna pam rydym ni'n eu harwain trwy hyfforddiant ac yn cynnig cefnogaeth ar bob cam. Mae maethu yn effeithio ar bawb yn ogystal â'r gofalwyr eu hunain, felly rydym wrth law i sicrhau bod y daith mor hwylus â phosibl.”

I Emma, pleser mwyaf ei gwaith yw gweld plant a phobl ifanc yn ffynnu mewn gofal maeth. Mae maethu yn ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth go iawn.

"Pan fydd plant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael cefnogaeth, yn enwedig yn eu cymuned leol, maen nhw'n ffynnu. Mae'n anhygoel gweld y plant yn hapus, yn cyflawni eu potensial, ac yn adeiladu dyfodol mwy disglair." 

Dyma ei chyngor i unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin sy’n ystyried maethu:

“Siaradwch â ni. Rydym ni yma i'ch helpu chi i ddysgu am faethu a rhoi cymorth i chi bob cam o'r ffordd. Mae'n gam mawr, ond yn gam sy'n newid bywyd plentyn - a'ch bywyd chi."

Mae taith Emma o dyfu i fyny ar aelwyd faethu i’w rôl fel gweithiwr cymdeithasol yn tynnu sylw at bŵer gofal a chymuned. Mae pob plentyn yn haeddu cael cartref diogel a chariadus, ac mae maethu yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o helpu i wneud i hynny ddigwydd. Allech chi agor eich calon a'ch cartref i helpu i drawsnewid bywyd plentyn?

I gael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr. I wneud ymholiad, cysylltwch â ni.

Hwb