Maethu Cymru Sir Gâr



Croeso i Faethu Cymru Sir Gâr, gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol. Rydym yn falch o fod yn rhan o Faethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol sy'n cysylltu pob un o'r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru.

Mae ein cenhadaeth yn syml ond yn bwerus: creu amgylcheddau sefydlog, meithringar lle gall plant lleol ffynnu.

Ein gweledigaeth yw i bob plentyn mewn gofal maeth yng Nghymru brofi bywydau sefydlog, datblygu perthnasoedd dibynadwy, ac elwa o ofal maeth o ansawdd uchel cyhyd ag y bydd ei angen arnynt.

Rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n gofalwyr maeth i sicrhau bod yr holl blant yn ein gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u caru.

Ein Gwerthoedd:

  • Rydym yn bwerus.
  • Rydym yn syfrdanol.
  • Rydym yn edrych i'r dyfodol.
  • Rydym yn ymroddedig.
  • Rydym yn real.

I gael gwybod mwy am faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.

Pwy sy'n gallu maethu

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol.

Rydym yn croesawu unigolion a theuluoedd o bob cefndir i ystyried maethu gyda ni - rydym yn dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. P'un a oes gennych brofiad blaenorol neu'n newydd i faethu, os ydych yn dosturiol, yn ymroddedig, ac yn gallu cael hwyl, rydym eisiau clywed gennych.

Yr unig ofyniad yw bod gennych ystafell sbâr.

I gael gwybod mwy am bwy all faethu, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.

Digwyddiadau


Ydych chi'n ystyried maethu? Os felly, ymunwch â ni yn un o'n digwyddiadau gwybodaeth sydd ar ddod i ddysgu mwy am faethu a sut y gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn.

Digwyddiadau Maethu

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl ddigwyddiadau gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y cylchlythyr.

Cylchlythyr Maethu

Cysylltu â ni


Rydym yma i helpu gydag unrhyw gwestiynau neu wybodaeth sydd eu hangen arnoch. Yn syml, llenwch ein ffurflen gyswllt a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi cyn bo hir.

Ffurflen Cysylltu

 

Maethu Cymru Sir Gâr
Tŷ Elwyn,
Llanelli,
Sir Gaerfyrddin,
SA15 3AP

Ffôn: 0800 0933 600

E-bost: maethu@sirgar.gov.uk

Mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.