Y Broses

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/10/2024

Mae dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Gâr yn broses syml sy'n cynnwys chwe cham allweddol:

  1. Cysylltwch â ni: Cysylltwch â ni i ddechrau eich taith.
  2. Ymweld â'r Cartref: Byddwn yn ymweld â'ch cartref i ddeall sut y gallai maethu ffitio i mewn i'ch bywyd.
  3. Hyfforddiant: Mynychu cwrs hyfforddi tri diwrnod lle byddwch yn cwrdd â'n tîm a gofalwyr maeth lleol eraill.
  4. Asesu: Bydd gweithiwr cymdeithasol yn asesu sut y bydd maethu yn gweithio o fewn eich teulu.
  5. Y Panel: Bydd eich asesiad yn cael ei adolygu gan banel o weithwyr proffesiynol profiadol.
  6. Cytundeb Gofal Maeth: Mae hyn yn nodi eich cyfrifoldebau a'r gefnogaeth y byddwn yn ei darparu.

I ddysgu mwy am yr hyn mae pob cam yn y broses yn ei olygu, ewch i Faethu Cymru Sir Gâr.