Pecyn Cyllido Cymorth i Drechu Tlodi 2026/27

Cronfa Refeniw Trechu Tlodi

 

Mae'r Gronfa Refeniw Trechu Tlodi yn cael ei hariannu drwy Becyn Cyllido Cymorth i Drechu Tlodi Llywodraeth Cymru 2026/27. 

Pwrpas y gronfa yw cefnogi gweithgareddau cymunedol sy'n helpu i atal a lleddfu tlodi, yn cefnogi gwell mynediad at gyngor ar gostau byw, yn cynyddu mynediad at gyngor a chymorth, ac yn cryfhau gallu cymunedau i greu llwybrau allan o dlodi. 

Dylai ffocws y gweithgaredd fod ar atal tlodi, cryfhau gwytnwch a lleihau dibyniaeth ailadroddus ar gymorth brys neu gymorth mewn argyfwng. Felly, dylai mannau cymunedol a gefnogir drwy'r grant ddarparu mynediad at gymorth ataliol ehangach, neu gyfeirio unigolion ato. 

 

Pwy all wneud cais?

Croesewir ceisiadau gan:

  • Grwpiau cymunedol
  • Sefydliadau gwirfoddol
  • Elusennau cofrestredig
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC)
  • Mentrau cymdeithasol
  • Sefydliadau dielw
  • Cynghorau Tref a Chymuned

 

Cyllid

Gall ymgeiswyr wneud cais am isafswm o £2,500 ac uchafswm o £10,000 o gyllid refeniw. Nid oes angen cyllid cyfatebol ac mae 100% o'r costau'n gymwys i'w hariannu.

Cyfnod cyflawni

Rhaid cyflawni prosiectau rhwng Rhagfyr 2026 ac 8 Mawrth 2027.

Dim ond gweithgareddau cymwys a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw fydd yn cael eu had-dalu.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12yp 30 Tachwedd 2026

Rhaid i'r ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro drwy ffonio 01269 590216 neu fel arall drwy e-bostio biwro@sirgar.gov.uk i gofrestru'r prosiect ac i gael Ffurflen Gais.

 

 

Cyllid Cyfalaf

Mae cyllid cyfalaf ar gael i adeiladu gallu hirdymor sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau atal tlodi a chymorth bwyd brys.  

Gellir defnyddio'r cyllid i:

  • Alluogi sefydliadau i gael mynediad at gyflenwadau bwyd ychwanegol, eu storio a'u dosbarthu.
  • Prynu offer i gefnogi mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
  • Cefnogi sefydliadau cymunedol sy'n darparu prosiectau sy'n ymwneud â bwyd ac sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
  • Cefnogi gweithgareddau cymunedol sy'n cynyddu gallu a darpariaeth mannau lleol sy'n cynnig cymorth gyda chostau byw.

 

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, rhaid i grwpiau neu sefydliadau: 

  • Dangos bod y cynnig er budd unigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin.
  • Bod yn grŵp cymunedol cyfansoddedig, yn elusen gofrestredig, yn fenter gymdeithasol, yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) sydd wedi'i leoli yng Nghymru, neu Cyngor Tref/Cymunedol.

Gall sefydliadau wneud cais am uchafswm o £5,000 ac isafswm o £1,000, hyd at 100% o gyfanswm costau'r prosiect. Nid oes angen cyllid cyfatebol.

 

Cyfnod cyflawni

 

Rhaid cyflawni prosiectau rhwng Rhagfyr 2026 a 26 Chwefror 2027.

Dim ond gweithgareddau cymwys a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw fydd yn cael eu had-dalu.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12yp 30 Tachwedd 2026

Rhaid i'r ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro drwy ffonio 01269 590216 neu fel arall drwy e-bostio biwro@sirgar.gov.uk i gofrestru'r prosiect ac i gael Ffurflen Gais.