Pecyn Cyllido Cymorth i Drechu Tlodi 2026/27
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/11/2026
Cronfa Refeniw Trechu Tlodi
Mae'r Gronfa Refeniw Trechu Tlodi yn cael ei hariannu drwy Becyn Cyllido Cymorth i Drechu Tlodi Llywodraeth Cymru 2026/27.
Pwrpas y gronfa yw cefnogi gweithgareddau cymunedol sy'n helpu i atal a lleddfu tlodi, yn cefnogi gwell mynediad at gyngor ar gostau byw, yn cynyddu mynediad at gyngor a chymorth, ac yn cryfhau gallu cymunedau i greu llwybrau allan o dlodi.
Dylai ffocws y gweithgaredd fod ar atal tlodi, cryfhau gwytnwch a lleihau dibyniaeth ailadroddus ar gymorth brys neu gymorth mewn argyfwng. Felly, dylai mannau cymunedol a gefnogir drwy'r grant ddarparu mynediad at gymorth ataliol ehangach, neu gyfeirio unigolion ato.
Pwy all wneud cais?
Croesewir ceisiadau gan:
- Grwpiau cymunedol
- Sefydliadau gwirfoddol
- Elusennau cofrestredig
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC)
- Mentrau cymdeithasol
- Sefydliadau dielw
- Cynghorau Tref a Chymuned
Cyllid
Gall ymgeiswyr wneud cais am isafswm o £2,500 ac uchafswm o £10,000 o gyllid refeniw. Nid oes angen cyllid cyfatebol ac mae 100% o'r costau'n gymwys i'w hariannu.
Cyfnod cyflawni
Rhaid cyflawni prosiectau rhwng Rhagfyr 2026 ac 8 Mawrth 2027.
Dim ond gweithgareddau cymwys a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw fydd yn cael eu had-dalu.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12yp 30 Tachwedd 2026
Rhaid i'r ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro drwy ffonio 01269 590216 neu fel arall drwy e-bostio biwro@sirgar.gov.uk i gofrestru'r prosiect ac i gael Ffurflen Gais.
Cyllid Cyfalaf
Mae cyllid cyfalaf ar gael i adeiladu gallu hirdymor sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau atal tlodi a chymorth bwyd brys.
Gellir defnyddio'r cyllid i:
- Alluogi sefydliadau i gael mynediad at gyflenwadau bwyd ychwanegol, eu storio a'u dosbarthu.
- Prynu offer i gefnogi mentrau sy'n helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
- Cefnogi sefydliadau cymunedol sy'n darparu prosiectau sy'n ymwneud â bwyd ac sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
- Cefnogi gweithgareddau cymunedol sy'n cynyddu gallu a darpariaeth mannau lleol sy'n cynnig cymorth gyda chostau byw.
Pwy all wneud cais?
I fod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn, rhaid i grwpiau neu sefydliadau:
- Dangos bod y cynnig er budd unigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin.
- Bod yn grŵp cymunedol cyfansoddedig, yn elusen gofrestredig, yn fenter gymdeithasol, yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) sydd wedi'i leoli yng Nghymru, neu Cyngor Tref/Cymunedol.
Gall sefydliadau wneud cais am uchafswm o £5,000 ac isafswm o £1,000, hyd at 100% o gyfanswm costau'r prosiect. Nid oes angen cyllid cyfatebol.
Cyfnod cyflawni
Rhaid cyflawni prosiectau rhwng Rhagfyr 2026 a 26 Chwefror 2027.
Dim ond gweithgareddau cymwys a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw fydd yn cael eu had-dalu.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12yp 30 Tachwedd 2026
Rhaid i'r ymgeiswyr gysylltu â'r Biwro drwy ffonio 01269 590216 neu fel arall drwy e-bostio biwro@sirgar.gov.uk i gofrestru'r prosiect ac i gael Ffurflen Gais.
