Mannau Cynnes
Canolfan Glyd Greadigol
Bydd y Ganolfan Glyd Greadigol yn lle diogel anfeirniadol i bobl sydd angen teimlo’n ddiogel, yn gynnes ac i gymryd rhan mewn gweithgaredd llesiant creadigol gydag ymarferwyr llesiant wedi eu hyfforddi.
Cawl, diodydd poeth a lluniaeth am ddim.
Bydd ein hystafelloedd ochr ar agor a bydd y gweithgareddau canlynol ar gael gydag ymarferwr llesiant:
- Setiau Pen Rhithwir
- Cyfrifiadur Gemau
- Gemau Bwrdd
- Celf a Chrefft
- Ymwybyddiaeth Ofalgar
Bydd y cyfranogwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn y prif weithgareddau yn y prif ofod, sy’n cynnwys sesiynau celf ac ysgrifennu creadigol.
Byddwn hefyd yn gallu eich cyfeirio at ein partneriaid i gael cefnogaeth ychwanegol os bydd arnoch ei hangen.
- Amser: Dydd Llun a Ddydd Mercher : 10am-4pm
- Lleoliad: People Speak Up, Stryd Parc, Llanelli.