Mannau Cynnes

Prosiect Man Cynnes Clwb Rygbi Pont-iets

Mae gennym seddi cyfforddus ac, yn fuan, byddwn yn gallu cynnig seddi ychwanegol i ddefnyddwyr, o ganlyniad i grant a dderbyniwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae te a choffi ar gael yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.

Mae'r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys deunyddiau darllen, gemau bwrdd, bingo, sianeli teledu tanysgrifio, gan gynnwys Netflix, Amazon Prime, Disney Plus, ac ati.

Mae rhagor o wybodaeth am y Man Cynnes ar gael drwy gysylltu â'r Clwb, drwy ffonio 01269 860444.

  • Amser: 3pm a 9pm bob dydd ac eithrio dydd Llun
  • Lleoliad: Clwb Rygbi Pont-iets, 3 Heol y Meinciau, Pont-iets. SA15 5TR