Mannau Cynnes
Lolfa Gymunedol Calon y Fferi
Man Cynnes - Croeso Cynnes yn Lolfa Gymunedol Calon y Fferi.
Bob dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sul rhwng 10am a 4pm.
Am ddim i bawb a darperir lluniaeth. Croeso i bawb.
Dewch draw i fwynhau llyfrau a gemau bwrdd, cwrdd ag aelodau eraill o'n cymunedau ac ymlacio mewn amgylchedd cynnes a chyfforddus. P'un a ydych am ddarllen llyfr yn dawel, darllen y papurau neu wau a sgwrsio, mae teuluoedd ac unigolion, ifanc a hŷn, yn cael croeso mawr i rannu ein Lolfa Gynnes y gaeaf hwn. Byddwn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dewisol, gan gynnwys Celf a Chrefft, ysgrifennu barddoniaeth a Ioga Cadair, bydd y rhain yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond nid yn orfodol.
- Amser: Bob dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sul rhwng 10am a 4pm.
- Lleoliad: Calon Y Fferi Canolfan Gymuned, Calon Y Fferi, Heol Caerfyrddin, Glan-y-fferi, SA17 5TE