Mannau Cynnes

Man Cynnes Menter Cil-y-cwm

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn gallu cynnig y cyfle i logi cyfleusterau'r Tŷ Capel a'r Festri am ddim, o nawr tan ddiwedd mis Mawrth gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau wythnosol wedi eu trefnu – gweler yr amserlen isod. Dewch draw i beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi.

Dydd Llun
10am-12pm - Bore coffi

Dydd Mawrth
2-4pm - Te Tri
Gweithdai Caffi Crefft
6-7pm - Grŵp Iechyd

Dydd Iau
10am-12pm - Bore coffi
2-4pm - Bore Caffi Crefft

Dydd Sadwrn
10am-12pm - Dysgwyr Rhandirmwyn
2-4pm - Clwb Gwyddbwyll

  • Amser: Yn y bore a'r prynhawn ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn
  • Lleoliad: Capel y Groes, Cilycwm. SA20 0SS