Mannau Cynnes

Y Ty Celf - Man cynnes i bobl sy'n byw gyda dementia

Dydd Llun 2pm - 4pm - gweithdai creadigol ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr

Ar ddydd Llun rhwng 2pm a 4pm byddwn yn agor man cynnes yn ein Hwb Creadigol i ddarparu croeso cynnes, gweithgareddau celf a chrefft syml a lluniaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Lle i sgwrsio, gwneud ffrindiau a chwerthin gyda'i gilydd mewn cyfnod heriol

Dydd Mawrth 10.30am - 12.30pm - gweithdai creadigol sydd ar agor i bawb

Mae'r Tŷ Celf yn eich croesawu i le diogel a chynnes i fwynhau gweithdai creadigol, gwneud eich paentiadau eich hun, rhannu straeon a chwerthin ymhlith ffrindiau a'n hartistiaid, gan fwynhau diodydd poeth a bisgedi.

Gwefan y Tŷ Celf

  • Amser: Pob Dydd Llun, 2pm - 4pm
  • Lleoliad: Y Ty Celf - The Art House, 1 John St, Llanelli, SA15 1UH