Cynllun gwella hawliau tramwy

Yn sgil Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, roedd yn ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol gyhoeddi cynllun gwella hawliau tramwy sy'n cwmpasu ei ardal gyfan.  


Roedd y Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i adolygu eu cynlluniau gwella hawliau tramwy o fewn 10 mlynedd ar ôl llunio eu cynllun diwethaf. 


Bwriedir i gynlluniau gwella fod yn brif fodd i awdurdodau priffyrdd lleol nodi’r newidiadau sydd i’w gwneud o ran rheoli a gwella eu rhwydwaith hawliau tramwy lleol er mwyn gwneud gwell darpariaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr, marchogion a’r rhai sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad i gefn gwlad.


Gall hawliau tramwy cyhoeddus ddarparu cysylltiadau gwerthfawr rhwng cymunedau, i fannau gwaith ac i amwynderau lleol. Maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o dwristiaeth wledig ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae o ran gwella a chynnal iechyd a llesiant ac wrth gyflawni’r amcanion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).


Daeth Cynllun Gwella Hawliau Tramwy cyntaf Sir Gaerfyrddin i ddiwedd ei dymor yn 2017. Cyhoeddwyd Cynllun Gwella Hawliau Tramwy diwygiedig ar gyfer y cyfnod 2019 i 2029 ac mae ar gael i'w weld isod. 
Yn 2023, fe wnaethon ni gynnal adolygiad canol tymor o Gynllun Gwella Hawliau Tramwy 2019 i 2029 i asesu cynnydd a nodi blaenoriaethau yn y dyfodol. Mae canfyddiadau'r adolygiad hwn wedi'u nodi yn y ddogfen Adolygiad Canol Tymor, y gellir ei gweld isod.  

 

LAWRLWYS Y ADOLYGIAD CANOL TYMOR