Cymorth. Cefnogaeth. Cyngor
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi, gallwch fynd i un o'n Canolfannau Hwb yn ein tair prif dref: Rhydaman, Caerfyrddin neu Lanelli.
Rydym yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiwn, p'un a yw'n ymholiad cyflym neu'n rhywbeth mwy cymhleth. Bydd ein tîm o Ymgynghorwyr Hwb cyfeillgar yn rhoi cymorth ichi gael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Byddwn yn dal ati i roi cymorth ichi hyd nes y byddwn wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i sicrhau'r incwm fwyaf posibl a lleihau eich gwariant. Hefyd mae gennym Ymgynghorwyr Cyllidebu a fydd yn eich helpu i ddysgu sut i reoli eich arian a dod yn fwy annibynnol yn ariannol.
Os yw'n anodd ichi deithio i un o'r 3 tref, gallwch ymweld ag un o'n 10 tref wledig. Mae ein tîm Hwb Bach y Wlad yn ymweld â'r trefi hyn yn rheolaidd. Edrychwch ar dudalen Hwb Bach y Wlad i gael rhestr o'r trefi hyn a'r dyddiadau y byddwn ni yno.
Er mwyn rhoi'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor rydych yn ei haeddu, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner a all gynnig cymorth ychwanegol na fyddwn o bosibl yn gallu ei ddarparu. Er enghraifft, gallan nhw helpu o ran cymorth llesiant ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol a chynorthwyo o ran gwneud cais am fudd-daliadau anabledd fel Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth Bersonol, neu Lwfans Byw i'r Anabl i blant.