Monitro Nitrogen Deuocsid
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/06/2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio tiwbiau trylediad i fonitro NO2 nad yw'n awtomatig (goddefol).
Mae samplwyr tiwb trylediad goddefol yn casglu nitrogen deuocsid trwy drylediad molecwlaidd ar hyd tiwb anadweithiol i amsugnydd cemegol effeithlon. Ar ôl mis, bydd y deunydd amsugnol yn cael ei ddadansoddi’n gemegol a bydd y crynodiad yn cael ei gyfrif.
Mae'r canlyniadau’n dangos y cymedr blynyddol mewn microgramau fesul metr ciwbig µg/m3. Ystyr crynodiad o 1 µg/m3 yw bod un metr ciwbig o aer yn cynnwys un microgram (un rhan o filiwn o gram) o lygrydd.
Yr amcan ansawdd aer blynyddol ar gyfer Nitrogen Deuocsid yw 40μg/m3.
Mae'r broses Rheoli Ansawdd yr Aer yn Lleol (LAQM) yn gosod rhwymedigaeth ar bob awdurdod lleol i adolygu ac asesu ansawdd aer yn ei ardal yn rheolaidd ac i bennu a yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni ai peidio. Pan geir gormodiant, neu lle mae hynny’n debygol, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) a pharatoi Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer (AQAP) sy’n nodi'r mesurau y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith i fynd ar drywydd yr amcanion.