Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024
Mae'n hawdd ymuno - gallwch gofrestru ar-lein drwy roi ychydig o fanylion syml neu drwy ffonio un o'n tair prif lyfrgell lle bydd aelod o'n tîm yn rhoi carden llyfrgell a rhif PIN dros dro i chi.
Gallwch archebu hyd at 20 o eitemau, gan gynnwys llyfrau a llyfrau llafar.
Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 3 wythnos.
Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif llyfrgell ar-lein.
Gallwch adnewyddu eich llyfrau ar-lein. Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Gallwch hefyd ffonio'r Llyfrgell a siarad ag aelod o'n tîm.
Gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar drwy BorrowBox o'n llyfrgell ddigidol fel rhan o'ch aelodaeth o'r Llyfrgell.
Gallwch lawrlwytho e-Cylchgronau drwy BorrowBox a PressReader o'r llyfrgell ddigidol fel rhan o'ch aelodaeth o'r Llyfrgell.
Bydd y gwasanaeth e-lyfrau yn caniatáu 3 diwrnod i chi lawrlwytho'r e-lyfr. Wedi hynny bydd yr e-lyfr yn cael ei gynnig i'r nesaf ar y rhestr aros neu'n cael ei ddychwelyd i'r gronfa e-lyfrau i gael ei gyrchu gan ddefnyddwyr eraill.
Ar gyfer defnyddwyr PC / MAC ac am yr holl ddarllenwyr sydd yn gydnaws â Rheolaeth Cyfyngiadau Digidol (RCD), bydd yr e-lyfrau yn cael eu llwytho i lawr gan defnyddio'r meddalwedd safonol am e-lyfrau, Adobe Digital Editions.
Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-lyfr byddwch yn cael cyfarwyddyd i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editions os nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur yn barod.
Nac ydych. Os nad ydych chi wedi gorffen yr e-lyfr, cewch ei lawrlwytho eto os nad oes neb arall wedi'i archebu. Os oes archeb wedi'i gwneud, bydd angen ichi ychwanegu eich manylion at y rhestr aros a byddwch yn cael gwybod pan fydd yr e-lyfr ar gael i'w fenthyg.
14 diwrnod yw'r cyfnod benthyg a bydd yr e-lyfr yn darfod ar ôl hynny ac ni fydd modd ei ddarllen ar eich cyfrifiadur neu ddarllenydd e-lyfrau. Wedyn, bydd modd i ddefnyddiwr arall lawrlwytho'r e-lyfr.
- Ymunwch â'r llyfrgell os nad ydych eisoes yn aelod
- Ar eich llechen/ffôn clyfar lawrlwythwch yr ap BorrowBox drwy eich siop apiau. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur personol neu Mac ewch yn uniongyrchol i BorrowBox.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell.
- Ewch ati i bori drwy'r casgliad 24/7 yn ôl teitl, awdur neu gategori. Gallwch gael cip ymlaen llaw ar y llyfrau cyn eu benthyca. Ewch ati i gadarnhau eich dewis neu roi lyfr ar gadw ar gyfer adeg arall.
- Lawrlwythwch y llyfr ar unwaith neu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod benthyca. Pan fydd llyfrau a roddwyd ar gadw yn barod i'w lawrlwytho bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cofrestredig (wedi'i ddiweddaru drwy "My Account").
- Ar ôl mewngofnodi mae gan BorrowBox adran cymorth gynhwysfawr ac mae hefyd yn darparu cymorth technegol drwy support@bolindadigital.com
Ydych. Mae'r gwasanaeth e-lyfrau'n caniatáu ichi archebu e-lyfr sydd wedi cael ei lawrlwytho. Os ydych chi am gynnwys eich cyfeiriad e-bost gyda'r archeb byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y bydd y teitl ar gael.
Oes. Mae gan ein Llyfrgell Deithiol ddetholiad o iPads ar gael, yn ogystal â WIFI am ddim a chyfleusterau argraffu