Dragon Rider Cymru
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/11/2024
Mae Dragon Rider Cymru yn gwrs hyfforddiant i reidwyr beiciau modur, sy'n cael ei gefnogi gan Gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chan Thunder Road Motorcycles o Dde Cymru.
Mae Timau Diogelwch Ffyrdd Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Benfro wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu'r cwrs sgiliau gwell beiciwr hwn, a roddir ar waith gan hyfforddwyr beiciau modur cymwys a phrofiadol sydd wedi'u hachredu gan Gofrestr yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau o hyfforddwyr gyrwyr beiciau modur sydd wedi llwyddo yn eu prawf gyrru. Hefyd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cefnogi'r fenter.
Cynhelir y cyrsiau ar y penwythnos ac maent yn para am ddiwrnod. Bydd y cwrs yn cynnwys sesiwn bore mewn ystafell ddosbarth, a fydd yn cael ei gynnal mewn gorsafoedd tân ac achub dynodedig yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Yn y prynhawn bydd y sesiwn yn digwydd ar amrywiaeth o ffyrdd drwy'r Sir ac mewn siroedd cyfagos er mwyn diwallu anghenion hyfforddiant beiciau modur reidwyr unigol, ar sail llawlyfr gyrru'r Heddlu, Roadcraft.
Anogir reidwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs Beiciwr Diogel i ddod â chopïau o'u ffurflenni asesu ar gyfer sesiwn y prynhawn. Ar y ffordd bydd un hyfforddwr yn gyfrifol am ddau reidiwr ar y mwyaf. Caiff yr hyfforddiant ei addasu i ddiwallu anghenion unigol y reidiwr.
Ar ddiwedd y dydd bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael tystysgrif cymhwysedd a gydnabyddir gan amrywiaeth eang o gwmnïau yswiriant ac a allai olygu gostyngiad.
Faint mae'r cwrs yn ei gostio?
Mae'r cwrs yn RHAD AC AM DDIM i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin oherwydd cyllid drwy Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru
Pryd mae’r cwrs ar gael
- Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 1 Rhagfyr 2024 (ymarferol)
- Dydd Mercher 15 Ionawr 2025, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 19 Ionawr 2025 (ymarferol)
- Dydd Mercher 26 Chwefror 2025, am 6:30pm (ar-lein) a dydd Sul 2 Mawrth 2025 (ymarferol)
Bydd y cyrsiau’n cael eu darparu ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’r cwrs, ynghyd â’r ddolen ymuno, yn cael eu hanfon atoch ar e-bost yn ystod wythnos eich cwrs. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, e-bostiwch DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio