Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/12/2024
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y 'Cwrs ar gyfer Gyrwyr Hŷn,' mae'n bleser gan yr Uned Diogelwch Ffyrdd ddarparu mwy o sesiynau ymwybyddiaeth. Rydym am ichi barhau i allu mynd a dod fel y mynnoch, bod yn annibynnol a bod yn hyderus wrth y llyw.
Beth am fanteisio ar y sesiwn anffurfiol a hamddenol hwn sy'n para diwrnod yng nghwmni Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy hollol gymwys?
Nid oes angen ichi ddod â'ch car i gael budd o'r sesiwn hwn – fe ddarparwn ni'r ceir.
Roedd cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddod i sesiynau ymarferol a theori a dyma beth ddywedodd rai ohonynt:
“Rwyf wedi ailddysgu llawer o bethau y dylwn i fod wedi gwybod ond rwyf wedi eu hanghofio dros y blynyddoedd”
“Gwnaeth hyn wir helpu fy hyder; dylai pawb wneud y cwrs hwn - diolch i bawb”
“Gallaf i yrru o amgylch cylchfan Morrisons yn hyderus nawr."
Hanes y cwrs?
- Eich helpu chi i yrru'n fwy diogel am gyfnod hirach
- Y broses o fynd yn hŷn a gyrru'n ddiogel
- Mynd i'r afael â'ch pryderon personol ynghylch eich gyrru nawr ac yn y dyfodol
- Nodi arferion gyrru gwael. Efallai eich bod wedi dysgu rhai dros y blynyddoedd!
- Diweddariadau i Reolau'r Ffordd Fawr
Nid yw'r cwrs yn:
- Profi eich sgiliau gyrru
- Asesiad ffurfiol o'ch gyrru
Beth yw cost y cwrs?
Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin.
Pryd mae’r cwrs ar gael
- Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025, 10am - 12:30pm, Caerfyrddin
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio