Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
A fyddech cystal â rhoi gwybod inni os oes un o'r materion a ganlyn yn berthnasol yn achos eich cysgodfan fysiau:
- Clawr yr amserlen ar goll
- Paneli ar goll/wedi'u difrodi
- Sedd wedi torri
- Graffiti
- Bwrdd amserlen electronig ddim yn gweithio
I roi gwybod am ddifrod yn ymwneud â chysgodfan fysiau, rhowch y wybodaeth ganlynol:
- Cod ID y gysgodfan fysiau wedi'i arddangos ar glawr yr amserlen
- Lleoliad y gysgodfan fysiau
- Pa ochr i'r ffordd y mae'r gysgodfan fysiau neu gyfeiriad y bws wrth stopio
- Llun o'r difrod neu fater - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho
- Disgrifiad o'r difrod a pha baneli sydd wedi'u torri
- Y rheswm dros y difrod os yw hyn yn hysbys