Ein Strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan

Mae ein strategaeth yn ategu 'Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer Cymru' Llywodraeth Cymru ac yn rhoi trywydd gweithredu pwrpasol inni o ran ble rydym am fod dros y 10 mlynedd nesaf. Rydym wrthi'n diweddaru'r strategaeth hon ar gyfer ei hail-lansio erbyn diwedd 2026.

Strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan

Dangosfwrdd gwefru'n gyflym

DOD YN FUAN: Bydd ein dangosfwrdd yn darparu data pellach ichi ynghylch defnydd.

Canolbwynt Cerbydau Trydan cyntaf Cymru

Y canolbwynt gwefru cyflym pwrpasol cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru. Ers agor ar ddiwedd mis Mawrth 2022, mae dros 10,500 sesiwn wefru wedi'u cychwyn yng Nghanolbwynt Cerbydau Trydan Cross Hands. Mae'r gwefrwyr ar y safle wedi darparu tua 243,200 kWh o drydan i ddefnyddwyr cerbydau trydan, sy'n cyfateb i tua 713,000 o filltiroedd o deithio mewn cerbyd trydan.

Integreiddio ein Cerbydau Trydan a'n Fflyd

Rydym wedi datblygu rhwydwaith gwefru cadarn ar gyfer ein fflyd, gyda 37 o wefrwyr yn gweithredu ar draws 11 safle.

Hwb