Trwydded Meddyg
Diweddarwyd y dudalen ar: 17/07/2026
Mae trwydded barcio meddygon ar gael ar gyfer mannau parcio dynodedig i feddygon yn y lleoliadau canlynol:
-
Princess Street, Llanelli
-
Park Crescent, Llanelli
Dim ond ar gyfer cerbydau a ddefnyddir gan bersonau cofrestredig llawn y gallwch wneud cais. Mae “meddyg” yn golygu “person cofrestredig llawn” (neu ymarferydd meddygol cymwys llawn) fel y'i diffinnir yn Adran 55 o Ddeddf Feddygol 1983.
- £75 y drwydded
I wneud cais am Drwydded Barcio Meddyg, anfonwch neges e-bost at TSresidentsparking@carmarthenshire.gov.uk.
