Trwydded ymwelydd

Mae trwydded parcio i ymwelwyr yn caniatáu i ymwelwyr barcio yn y Parth Ardal Gyfyngedig. Cyhoeddir i’r preswylydd cyntaf o bob cartref i wneud cais am hawlen preswylydd. Gellir ei roi hefyd, ar dderbyn cais, i’r preswylwyr hynny sydd heb fod yn berchen ar gar neu heb wneud cais am hawlen i breswylwyr. Parcio ar gyfer ceir, a faniau ysgafn yn unig.

  • Dim mwy na 1 hawlen
  • £40 am bob hawlen
  • Os nad ydych wedi gwneud cais am hawlen i breswylwyr rhaid i chi gyflwyno 2 brawf o’ch cyfeiriad preswyl.

Gwneud cais am Drwydded Ymwelwyr ar MiPermit

 

Nid oes angen i ddeiliaid Bathodynnau Glas bellach brynu hawlen i breswylwyr i barcio ar eu stryd gan fod arddangos Bathodyn Glas dilys yn ddigon.

Fodd bynnag, os byddwch yn teithio’n rheolaidd gyda ffrindiau neu deulu yn eu ceir ac yn dibynnu ar eich bathodyn glas ar gyfer parcio yn eich cyrchfan, rydym yn argymell eich bod yn prynu hawlen i breswylwyr ar gyfer eich car chi eich hun er mwyn osgoi cael hysbysiad tâl cosb am beidio ag arddangos hawlen ddilys neu Fathodyn Glas tra roeddech oddi cartref.

Os byddwch yn newid eich cerbyd ac angen hawlen newydd, bydd angen i chi wneud cais newydd ynghyd â'r prawf perthnasol a'r taliad. Bydd unrhyw hawlen newydd a roddir yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei chyhoeddi. Os byddwch yn newid cerbyd bydd angen i chi ildio eich hawlen gyfredol. Mae'r tâl ar gyfer talu'r gost weinyddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu hawlen newydd.

Os oes gennych Drwydded Barcio Preswylwyr ar hyn o bryd, bydd angen i chi ganslo'r drwydded hon ar MiPermit.

I wneud cais am drwydded ar gyfer eich cyfeiriad newydd neu i gael trwydded newydd yn lle un sy'n bodoli eisoes, ewch i MiPermit.

Cyhoeddir Trwydded Barcio Preswylwyr ar gyfer cerbydau modur sy'n eiddo i breswylwyr (gan gynnwys cerbydau LPG neu gerbydau trydan).

  • Uchafswm o 2 drwydded fesul aelwyd.
  • £40 y drwydded. Mae trwyddedau ar gyfer cerbydau LPG neu gerbydau trydan am ddim.
  • Mae angen dau brawf o gyfeiriad a phrawf eich bod â hawl i yrru'r cerbyd.

Cyhoeddir trwydded ar gyfer cerbyd penodol. Os byddwch yn defnyddio cerbyd arall dros dro am gyfnod o ddim mwy nag wythnos (er enghraifft, car cwrteisi tra bo'ch cerbyd yn cael ei atgyweirio neu ei wasanaethu, neu gerbyd hurio), gallwch ddefnyddio eich trwydded ymwelwyr.

Bydd angen i berchnogion cerbydau LPG neu gerbydau trydan ddarparu prawf bod eu cerbyd yn defnyddio LPG neu drydan.