Tywydd Garw
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/11/2024
Gofalwch fod gennych y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf dros y gaeaf, yn cynnwys rhybuddion tywydd a chyngor, gan gynnwys graeanu, gyrru'n ddiogel, ac awgrymiadau i ofalu am eich cartref a mwy.
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/11/2024
Gofalwch fod gennych y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf dros y gaeaf, yn cynnwys rhybuddion tywydd a chyngor, gan gynnwys graeanu, gyrru'n ddiogel, ac awgrymiadau i ofalu am eich cartref a mwy.
Gweler y rhybuddion tywydd diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer Sir Gâr.
Gallwch gofrestru i gael rhybuddion drwy e-bost oddi wrth y Swyddfa Dywydd, neu lawrlwythio'r Ap Tywydd er mwyn sicrhau bod y rhagolygon diweddaraf gennych bob amser.
Mae ein staff wrth gefn drwy'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, i ymateb pan fydd y tywydd a'r amgylchiadau ar y ffyrdd yn newid.
Rhowch wybod os ydych chi'n teimlo bod amodau ar lwybr / palmant / llwybr beicio penodol yn beryglus. A hefyd os oes angen ail-lenwi biniau graean neu os oes angen bin newydd.
Bydd rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu gwastraff y cartref a chasgliadau sbwriel dros gyfnod yr ŵyl.
Wrth i chi brynu nwyddau neu wasanaethau o fusnes, mae'r gyfraith yn eich diogelu drwy eich hawliau statudol. Dewch o hyd i gyngor ac arweiniad ar beth i'w wneud.
Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, edrychwch ar wefan Traveline i weld a oes unrhyw oedi neu darfu ar wasanaethau.
Cyn dechrau ar eich taith, meddyliwch sut y gallai tywydd garw effeithio arnoch chi. Dim ond ambell beth syml sydd eisiau ei wneud er mwyn bod yn barod.
Paratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf - cadwch yn gynnes, byddwch yn ddiogel, paratowch.