Sgiliau Iaith Gymraeg
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/11/2026
Pam mae dwyieithrwydd yn bwysig i Gyngor Sir Gaerfyrddin?
Mae gan Sir Gaerfyrddin un o'r poblogaethau mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o'n cymunedau, ein diwylliant a'n treftadaeth.
Fel sefydliad dwyieithog sy'n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith. Mae hyn yn golygu y gall pobl Sir Gaerfyrddin gael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith o ddewis.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym yn angerddol am hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg ac annog ein staff i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Drwy wneud hynny, gallwn ddarparu gwell gwasanaeth i'n trigolion a helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw yn Sir Gaerfyrddin.
Ein Diwylliant Dwyieithog
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae hyn yn wir am ein sefydliad hefyd.
Dydyn ni ddim yn disgwyl i'ch Cymraeg fod yn berffaith. Trwy ddefnyddio'r Gymraeg sydd gennych gallwn gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau gwaith bob dydd a helpu i greu diwylliant gwirioneddol ddwyieithog.
Mae gweithio'n ddwyieithog yn ymwneud â mwy na sgiliau iaith yn unig. Mae'n ymwneud â chreu amgylchedd lle gall y Gymraeg a'r Saesneg cael eu defnyddio yn naturiol ac yn hyderus, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddefnyddio'r iaith ar lefel sy'n gyfforddus iddyn nhw.
Nid sefydliad sy'n cyfieithu dogfennau yn unig yw sefydliad dwyieithog. Mae'n sefydliad lle gall y GYMRAEG a’r Saesneg cael eu defnyddio yn NATURIOL ac yn HYDERUS, gan sicrhau bod ein staff a'n cymunedau yn gallu cyfathrebu a chael mynediad at wasanaethau yn eu hiaith o ddewis.
P'un a ydych chi'n siarad Cymraeg bob dydd, yn dysgu Cymraeg am y tro cyntaf, neu'n ailddarganfod y Gymraeg a ddysgwyd yn yr ysgol, mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth gefnogi a hyrwyddo'r iaith.
Mae gan bob rôl o fewn y Cyngor ofynion sgiliau Cymraeg a Saesneg yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 5, yn ddibynnol ar natur y rôl.
Na.
Dim ond 40% o'n gweithlu sy'n ddwyieithog. Mae gwahanol rolau yn gofyn am lefelau gwahanol o allu Cymraeg. Efallai y bydd rhai swyddi yn gofyn am sgiliau cwrteisi sylfaenol, tra gall eraill fod angen y gallu i gyfathrebu'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o ddyletswyddau o ddydd i ddydd. Defnyddiwch y Gymraeg sydd gennych, a byddwn yn eich cefnogi ar eich taith bob cam o'r ffordd.
Mae gwahanol rolau yn gofyn am lefelau gwahanol o allu Cymraeg, ac mae llawer o weithwyr yn parhau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg wrth weithio i'r Cyngor.
Mae llawer o'n staff wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac efallai nad ydynt wedi ei defnyddio ers blynyddoedd. Peidiwch â phoeni os mai chi yw hynny. Yn aml, nid yw'n ymwneud â dysgu Cymraeg o'r dechrau - mae'n ymwneud ag ailadeiladu hyder a dod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gennych.
Rydym yn annog pawb i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt, beth bynnag yw eu lefel, a byddwn yn eich cefnogi ar eich taith iaith bob cam o'r ffordd, boed hynny drwy gwrs wythnosol, mentora neu gyfleoedd i fagu hyder.
Efallai eich bod eisoes wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol, ac heb ei ddefnyddio ers hynny.
Peidiwch â phoeni – gallwch ymgeisio o hyd.
Os ydych chi'n llwyddiannus ac angen cymorth i ddatblygu’ch sgiliau Cymraeg, byddwn yn ariannu ac yn cefnogi eich dysgu yn ystod oriau gwaith. Mae amrywiaeth o opsiynau dysgu ar gael i'ch helpu i gyrraedd y lefel angenrheidiol ar gyfer eich rôl.
Gan fod sgiliau iaith Gymraeg yn rhan o'r meini prawf hanfodol ar gyfer llawer o'n rolau, efallai y bydd rhai ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gwblhau asesiad sgiliau Cymraeg fel rhan o'r broses recriwtio, fel arfer ar yr un diwrnod â'r cyfweliad.
Mae'r asesiad yn ein helpu i ddeall eich gallu Cymraeg presennol ac yn sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu hasesu'n deg ac yn gyson yn erbyn gofynion iaith y rôl.
Beth alla i ei ddisgwyl?
Peidiwch â phoeni amdano! Mae ein hasesiadau Cymraeg yn cael eu cynnal mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol ac wedi'u deilwra i'r lefel sy'n ofynnol ar gyfer y rôl. Meddyliwch amdano fel cael 'sgwrs' gyda rhywun am weithgareddau bob dydd.
Yn dibynnu ar y lefel sy’n cael eu hasesu, efallai y gofynnir i chi:
- Cymryd rhan mewn sgwrs yn Gymraeg.
- Trafod pynciau bob dydd neu pynciau sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Dangos eich dealltwriaeth o'r Gymraeg llafar.
- Cwblhau dasg ysgrifennu fer, fel ysgrifennu e-bost neu gynhyrchu darn byr o waith sy'n berthnasol i'r rôl.
Mae'r asesiad wedi'i gynllunio i adlewyrchu sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn, ac nid yw wedi'i gynllunio i'ch dal allan.
Os nad ydych yn gallu cwblhau pob tasg, peidiwch â phoeni. Mae'r asesiad hefyd yn ein helpu i nodi pa gymorth a allai fod ei hangen arnoch i'ch helpu i barhau i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
Gallwch ddechrau datblygu eich sgiliau Cymraeg cyn ymuno â Chyngor Sir Gaerfyrddin drwy gyrsiau am ddim a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r cyrsiau Croeso Rhan 1 a Rhan 2 yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr cyflawn neu unrhyw un sy'n dymuno adnewyddu eu sgiliau.
P'un a ydych chi'n cymryd eich camau cyntaf yn y Gymraeg, yn ailddarganfod yr iaith, neu'n ceisio codi hyder, mae yna ddigon o gyfleoedd i'ch cefnogi. Ewch ati i archwilio ystod eang o gyrsiau ac adnoddau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gennych, gan gynnwys podlediadau, rhaglenni teledu, cynnwys ar-lein a chyfleoedd dysgu ar gyfer pob lefel.
Teithiau Dysgu Staff Cyngor Sir Gaerfyrddin:
Cwrs Codi hyder
“Roedd y cwrs Codi Hyder Cymraeg yn wych gan ei fod wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder wrth siarad Cymraeg, ac mae wedi bod yn fuddiol iawn i'm gwaith. Rhoddodd y cwrs gyfle i mi ymarfer fy Nghymraeg mewn amgylchedd hamddenol am ddwy awr yr wythnos, ac roedd hynny'n gyfnod dysgu addas iawn. Cafodd y sesiynau eu cynnal yn rhithiol, a oedd yn gyfleus iawn. Dw i bellach yn teimlo'n fwy hyderus wrth siarad Cymraeg gyda chydweithwyr ac wrth ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.”
Cwrs Cymraeg Defnyddio Cymraeg yn y Gwaith 1-wythnos:
Mae'r cwrs wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi, yn y gwaith ac yn fy mywyd bob dydd. Bydd yn fy helpu i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy hyderus gyda chydweithwyr a chleientiaid, boed hynny yn y gweithle, yn y gymuned neu yn yr ysbyty.
"Mae'r cwrs hwn yn rhoi llawer o hyder i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn eich gweithle"
Cwrs Dysgu Cymraeg:
Ers dechrau gweithio i'r Cyngor ym mis Mehefin 2019, dw i wedi cael fy annog a'm cefnogi i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg drwy fynychu cwrs wythnosol. Dw i'n ceisio defnyddio'r Gymraeg dw i wedi'i dysgu gyda'r grwpiau dwi'n gweithio gyda yn y gymuned, ac mae'r ymateb bob amser yn gadarnhaol. Mae pobl yn gefnogol iawn ac yn fy annog i ymarfer geiriau ac ymadroddion newydd. Dw i hefyd wedi elwa ar gael Mentor Cymraeg, sydd wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i mi ymarfer a magu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar.
