Cyfleoedd i raddedigion

Cynlluniwr Trafnidiaeth Graddedig

 

Dechreuwch eich gyrfa ym maes cynllunio trafnidiaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Ymunwch â thîm blaengar sy’n cyflawni prosiectau, polisïau a strategaethau sy’n cefnogi teithio cynaliadwy, twf economaidd ac uchelgeisiau sero net.

Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn dadansoddi data, cyflawni prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a cheisiadau am gyllid, wrth gyfrannu at raglenni trafnidiaeth ranbarthol a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol.

Gwnewch gais nawr

Swyddog Graddedig Gorfodi Materion Amgylcheddol

 

Dechreuwch eich gyrfa gan helpu i ddiogelu a gwella’r amgylchedd lleol. Ymunwch â’n Tîm Gorfodi Amgylcheddol sy’n mynd i’r afael â materion fel sbwriel, tipio anghyfreithlon a rheoli gwastraff, wrth gefnogi ymgysylltu cymunedol ac addysg.

Cewch profiad mewn prosesau gorfodi, adrodd data a gwella gwasanaethau, gan gyfrannu at gymunedau glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.

Gwnewch gais nawr

Syrfëwr Rheoli Asedau Strategol (Eiddo) Graddedig x2

Ydych chi’n raddedig sydd yn chwilio am rôl ymarferol ac amrywiol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau? A oes gennych ddiddordeb mewn sut mae tir ac adeiladau’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, yn sicrhau gwerth am arian, ac yn helpu i lunio dyfodol ein hardaloedd lleol?

Os felly, gallai ein rôl Rheoli Asedau Strategol i Raddedigion fod yn fan cychwyn perffaith i’ch gyrfa.
Mae’r rôl hon yn cynnig profiad ymarferol o weithio gydag asedau eiddo a thir ledled y sir, gan gefnogi gwell darpariaeth gwasanaethau, defnydd mwy effeithlon o adnoddau, a chynaliadwyedd hirdymor.

Yn dod yn fuan

Syrfëwr Adeiladu Graddedig (Tîm Cyflwr Stoc Eiddo)

 

Dechreuwch eich gyrfa ym maes arolygu adeiladau, gan gefnogi arolygiadau ac arolygon cyflwr ar draws portffolio amrywiol o eiddo’r Cyngor.

Byddwch yn ennill profiad mewn casglu data asedau, adroddiadau a chynllunio gwaith cynnal a chadw, gan helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a sicrhau bod adeiladau’n parhau’n ddiogel ac yn addas i’r diben, wrth weithio tuag at achrediad proffesiynol.

Gwnewch gais nawr

Rheolwr Prosiect Graddedig (Tîm Mân Waith) 

Ymunwch â’n Tîm Cynnal a Chadw Eiddo ac ennill profiad ymarferol o gyflawni prosiectau adnewyddu a chynnal a chadw cyfalaf ar draws amrywiaeth o adeiladau’r Cyngor.

O gefnogi dyluniad a chynhyrchu amserlenni gwaith i ymweliadau safle a monitro prosiectau, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect allweddol, wrth weithio tuag at achrediad proffesiynol.

Gwnewch gais nawr

Gweithiwr Graddedig (Traffig a Diogelwch Ffyrdd)

Dechreuwch eich gyrfa gan wella diogelwch ar y ffyrdd a rheoli traffig ar draws y Sir.

Byddwch yn cefnogi ymchwiliadau i wrthdrawiadau, yn helpu i ddatblygu cynlluniau diogelwch a gorchmynion traffig, ac yn gweithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid i wella amodau’r ffyrdd. Mae’r rôl hon yn cynnig profiad mewn dadansoddi data, datblygu cynlluniau a chefnogaeth prosiectau..

Gwnewch gais nawr

 

Cyfrifydd Graddedig

Mae ein Tîm Cyllid yn chwilio am rywun sy’n llawn cymhelliant, yn frwdfrydig, yn awyddus i ddysgu a datblygu, ac sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ôl-raddedig ym maes cyllid.

Gyda llygad craff am fanylion a sgiliau dadansoddol da, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli arian cyhoeddus a chefnogi gwasanaethau cymunedol, gan gael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chymwysterau gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar.
Bydd y graddedig yn ennill profiad ymarferol drwy gyfuniad o waith prosiect a chyfrifoldebau gweithredol, gan feithrin dealltwriaeth gadarn o reolaeth ariannol, llywodraethu ac archwilio o fewn cyd-destun awdurdod lleol.

Yn dod yn fuan