Digwyddiadau

Mai
29
2025

Sesiwn galw mewn Gweithio Sir Gâr

Ydych chi'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyngor am ddechrau eich busnes eich hun?

Dewch i sesiwn galw Mewn Gweithio Sir Gar.

  • Cwrdd â chyflogwyr lleol a chenedlaethol i gael gwybodaeth am swyddi gwag cyfredol yn yr ardal
  • Gwybodaeth a chymorth cyflogaeth AM DDIM, megis ysgrifennu CV, cymorth gyda llenwi ffurflenni cais, cymorth mentor 1-1.
  • Cyfleoedd hyfforddiant AM DDIM/cymorth gydag uwchsgilio
  • Mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

01267 224211

GweithioSirGar@sirgar.gov.uk

  • Amser: 10am - 12:30pm
  • Lleoliad: Clwb Rygbi Llanybydder