Croeso i Raglen Brentisiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin!

 

Ydych chi'n chwilio am her newydd neu eisiau newid gyrfa? A ydych chi eisiau ennill cyflog wrth ddysgu?
Os felly, mae prentisiaethau yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol a pharatoi ar gyfer byd gwaith.

Prentisiaethau Amdani

Mae prentisiaeth yn gyfle i ennill cyflog, ennill profiad ymarferol a chyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a chael mynediad i fanteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Fel prentis, cewch eich mentora gan ein staff profiadol trabyddwch hefyd yn treulio cyfran o'ch amser cyflogedig yn mynychu hyfforddiant gyda'ch darparwr hyfforddiant i'ch helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich cymhwyster.  Mae ein rhaglen brentisiaeth Amdani ar gyfer unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn sy'n dechrau yn eu gyrfa neu'n chwilio am newid gyrfa, nid oes terfyn oedran uchaf, ond efallai y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.

Fel prentis, mae cyfleoedd i ddefnyddio eich Cymraeg bob dydd drwy sgyrsiau gyda chwsmeriaid a’ch tîm ac ymgymryd â’ch dysgu’n ddwyieithog.

I gael rhagor o wybodaeth am Amdani, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae gwneud cais

Gweler pa gyfleoedd sydd ar gael i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch profiad.

Dewch i ymuno â Chyngor Sir Caerfyrddin fel Prentis Amdani ac ennill wrth i chi ddysgu.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i gyfle sy’n addas i chi, y cam nesaf yw cyflwyno cais. Gallwch ymgeisio am fwy nag un cyfle os dymunwch.

Gweler sut yma…Sut i wneud cais – Gweithio i ni 

Ewch i'n tudalennau Proses Recriwtio i gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais. 

 

 

 

Sut brofiad yw bod yn brentis, a lle gall fynd â chi? 

 


Callum

Swyddog Technegol


Emma

Prentis Cymorth Busnes


James

Brentis TG 

Connor

Prentis Cymorth Busnes


Amy

Prentis Cymorth Busnes


Jac

Prentis Refeniw 

Hwb