Gweithio Sir Gâr

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/02/2025

Mae Gweithio Sir Gar yn brosiect wedi'i ariannu sy'n ceisio helpu pobl i adeiladu bywyd gwell trwy gefnogi'r rhai sy'n ddi-waith neu'n gweithio llai nag 16 awr i ddod o hyd i waith hirdymor.

Mae'r prosiect yn cael ei ddarparu gan ein tîm ymroddedig, sydd wedi'i leoli yng nghanolfannau Hwb y Cyngor yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin. Rydym yn cynnig cymorth dwys a chymorth cofleidiol un i un gan ein tîm o fentoriaid a Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr i symud pobl yn nes at ddarpariaeth brif ffrwd ac i gael gwaith a'i gadw.

Gall Gweithio Sir Gar eich helpu gyda:

  • Mentor Personol
  • Cymorth i Chwilio am Swydd
  • Ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais
  • Dod o hyd i swyddi gwag lleol sy'n addas i'ch sgiliau
  • Cyfleoedd hyfforddiant perthnasol
  • Cyfleoedd gwirfoddoli
  • Cyfle gwaith â thâl gyda chyflogwr lleol

Ffoniwch ni ar 01267224211
E-bostiwch GweithioSirGar@sirgar.gov.uk

neu

Gwneud cais am Gymorth cyflogaeth