Penodi Personau Lleyg - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/08/2025
Mae gennym swydd wag ar gyfer un Person Lleyg Annibynnol ar gyfer Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor. Os oes gennych unrhyw ddiddordeb neu brofiad mewn llywodraethu, archwilio, perfformiad neu reoli risg ac eisiau helpu'r cyngor i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yna gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi.
Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Mae'r pwyllgor statudol hwn yn elfen allweddol o fframwaith llywodraethu Cyngor Sir Caerfyrddin. Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd ein fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheolaeth fewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb ein prosesau adrodd a llywodraethu ariannol. Mae'r Pwyllgor yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ar waith.
Mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfarfod yn ffurfiol o leiaf bedair gwaith y flwyddyn ac mae Personau Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn cael cydnabyddiaeth ariannol am hynny yn unol â'r cyfraddau a bennir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Beth yw Person Lleyg?
Mae Person Lleyg yn golygu person:
- Nad yw'n aelod nac yn swyddog i unrhyw awdurdod lleol;
- Nad yw wedi bod yn aelod nac yn swyddog i unrhyw awdurdod lleol ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar y dyddiad penodi; ac
- Nad yw'n briod â, nac yn bartner sifil i, aelod neu swyddog i unrhyw awdurdod lleol.
Yn ogystal â bodloni'r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymrwymiad i'r 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) ac yn gallu dangos y rhinweddau a'r nodweddion canlynol:
- Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reolaeth ariannol, rheoli risg a rheoli pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifyddu, a'r drefn reoleiddio yng Nghymru;
- Meddwl mewn ffordd wrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a'r gallu i arfer disgresiwn;
- Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a'u cymhwyso'n ymarferol tuag at gyflawni amcanion sefydliadol;
- Meddyliwr strategol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol;
- Y gallu i ddeall a phwyso a mesur tystiolaeth a'i herio mewn ffordd barchus.
Nid oes angen gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol er y disgwylir y byddai gan ddarpar ymgeiswyr ddiddordeb mewn materion sy'n ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus. Byddai meddu ar ddiddordeb lleol yn Sir Gaerfyrddin, a gwybodaeth amdani yn ddymunol.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei gadeirio gan Berson Lleyg, felly mae parodrwydd a gallu i gyflawni'r rôl hon yn ddymunol.
LLEOLIAD: Neuadd y Sir, Caerfyrddin / Cyfarfodydd o Bell / Hybrid
CYDNABYDDIAETH: Telir cydnabyddiaeth ariannol yn unol â'r cyfraddau a bennir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
YMRWYMIAD: O leiaf 4 cyfarfod y flwyddyn
TYMOR Y PENODIAD: Am gyfnod o 5 mlynedd, ond gellid ei ail-benodi am dymor pellach.
DYDDIAD CAU: 4 o’r gloch 12fed o Fedi 2025
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Helen Pugh, Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol - HLPugh@sirgar.gov.uk
I gael ffurflen gais ebostiwch craffu@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 224028.