Heol Cil-y-cwm, Llanymddyfri

Mae cynllun Heol Cil-y-cwm yn ddatblygiad o 14 o gartrefi ar rent cymdeithasol yn nhref farchnad hyfryd Llanymddyfri yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin. Mae'r dref  ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae tua 40 munud mewn car o gyrraedd Caerfyrddin a Rhydaman. Bydd y cartrefi newydd yn ychwanegiad i'w groesawu i'r dref a byddan nhw'n darparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen yn yr ardal wledig i unigolion a theuluoedd lleol. Mae'r 14 cartref ar rent cymdeithasol yn cynnwys:

·       4 fflat ag un ystafell wely;

·       6 chartref â 2 ystafell wely

·       2 fyngalo â 2 ystafell wely; a 

·       2 gartref â 3 ystafell wely

Mae'r cartrefi ynni-effeithlon hyn yn cynnwys mannau byw modern, cegin ac ystafell ymolchi gyfoes, ardaloedd byw yn yr awyr agored a pharcio oddi ar y ffordd.

Mae'r dref ar lannau afon Tywi ac mae'n borth i Fynyddoedd Cambria gerllaw i'r gogledd neu Fannau Brycheiniog i'r de. Mae hyn yn sicrhau y gallwch gael mynediad at ddigon o lwybrau cerdded a beicio sydd o fewn cyrraedd hawdd. Mae'n atyniad twristaidd adnabyddus, ac mae hanes cyfoethog yn ei atyniadau niferus sy'n cynnwys gwestai, siopau, bariau a chaffis.

Mae gan y dref Ysgol Gynradd, Canolfan Hamdden, Archfarchnad a Choleg ac mae'n cael ei gwasanaethu'n dda gan yr A40 sy'n anelu i'r gorllewin i Gaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli neu i'r dwyrain tuag at Aberhonddu. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da gyda Lein Calon Cymru yn rhedeg drwy'r dref yn ogystal â llwybrau bysiau rheolaidd. Mae'r dref hefyd yn gartref i dîm rygbi Llanymddyfri sy'n chwarae yng Nghynghrair Super Rygbi Cymru.

Mae'r gwaith ar y datblygiad yn mynd rhagddo'n dda, ac mae disgwyl i'r cartrefi gael eu cwblhau a'u gosod yn Hydref 2027. 

Hwb