Beth yw prydles?

Mae prydles yn gontract cyfreithiol rwymol rhyngoch chi (y lesddeiliad) a Chyngor Sir Caerfyrddin (eich landlord). Mae'n nodi'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau a hawliau eich landlord.
Cyn i chi brynu eich eiddo, dylai eich cyfreithiwr fod wedi egluro'ch prydles yn llawn fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau fel lesddeiliad, a chyfrifoldebau'r cyngor fel landlord. Dylech fod wedi derbyn copi o'ch prydles gan eich cyfreithiwr.
Dylai eich benthyciwr morgais gadw'r copi gwreiddiol o'ch prydles a gellir cael copïau ganddynt. Gallwn hefyd roi copi i chi os yw'n berthnasol. Os nad oes gennych forgais, dylech gadw'r copi gwreiddiol o'ch prydles a sicrhau ei fod yn cael ei storio'n ddiogel.
Mae'n rhoi'r hawl i chi fyw yn yr eiddo am gyfnod penodol o amser cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio â'r amodau a nodir ynddo. Bydd hyd ac amodau'r brydles yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn a gytunwyd ar adeg ei werthu. Mae prydles fel arfer yn rhedeg rhwng 99 a 125 o flynyddoedd, ac yn y rhan fwyaf o achosion mae'n dyddio o'r tro cyntaf i eiddo gael ei werthu yn y bloc. Os ydych wedi prynu eich cartref gan lesddeiliad arall, bydd gennych hawl i fyw yno am nifer y blynyddoedd sy'n weddill ar y brydles wreiddiol.

 

Bydd eich prydles yn cynnwys holl fanylion eich hawliau a'ch rhwymedigaethau y disgwylir i chi eu bodloni.
Rydym yn cynghori pob lesddeiliad i gadw a darllen drwy gopi o'i brydles gan fod hyn yn sail i'ch contract gyda ni (eich landlord). Os hoffech gael copi o'ch prydles, cysylltwch â'r tîm ar:- 01267 228920 / 07393 762642
Bydd eich prydles yn unigryw ac yn nodi gofynion penodol sy'n cynnwys yr holl hawliau a chyfrifoldebau sydd gennych, ond bydd y rhan fwyaf o brydlesau yn cynnwys y meini prawf canlynol:

  • Defnyddio eich cartref fel preswylfa breifat yn unig.
  • Talu'r rhent tir a thaliadau am wasanaethau mewn modd amserol.
  • Fel lesddeiliad rydych yn gyfrifol am gadw'r tu mewn i'ch cartref mewn cyflwr da a chi sy'n gyfrifol am unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw y tu mewn i'ch cartref a thalu'n llawn am y gost.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Addurno y tu mewn i'ch cartref
  • Gosodiadau a ffitiadau fel baddonau, toiledau, sinciau, unedau cegin
  • Drysau a fframiau drysau mewnol
  • Waliau, nenfydau, lloriau a gwaith plastro
  • Systemau gwresogi, gwaith trydan, gwaith plymio, pibellau, tanciau dŵr, gwifrau, ceblau, rheiddiaduron, draeniau
  • Gosod, atgyweirio a chynnal a chadw ffitiadau ac offer nwy a thrydanol.
  • Glanhau ac ysgubo ffliwiau a simneiau
  • Gerddi (os oes gennych un)

Rhaid ichi hefyd:

  • Peidio â gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau strwythurol heb ein caniatâd ysgrifenedig.
  • Peidio ag achosi niwsans neu annifyrrwch i'ch cymdogion gan mai sŵn yw prif achos anghydfodau rhwng cymdogion. Ceisio bod yn sensitif a rhoi gwybod i'ch cymdogion a fydd gweithwyr neu sŵn anarferol yn eich cartref neu os ydych yn cynllunio parti.
  • Peidio â chamddefnyddio unrhyw ardal o'r ardd neu godi unrhyw ffens ar unrhyw ardal a rennir neu hawl tramwy a rennir.
  • Peidio ag achosi unrhyw ddifrod, perygl neu rwystr i'r adeilad, ardaloedd cymunedol, neu eiddo cyfagos.
  • Os ydych chi'n is-osod eich cartref, rhowch wybod i ni. Mae'n bwysig bod gennym y manylion cywir am y perchnogion a'r preswylwyr.

Rydym yn eich annog yn gryf i drefnu bod eich offer nwy yn cael ei wasanaethu'n flynyddol gan beiriannydd gwresogi cofrestredig CORGI.
Rydym yn eich annog yn gryf i gael yswiriant cynnwys bob blwyddyn.

Bydd eich prydles unigol yn cynnwys nifer o hawliau a chyfrifoldebau y mae'n rhaid i ni fel y landlord eu diwallu.

  • Cynnal y prif adeilad yr ydych yn byw ynddo gydag atgyweiriadau, gwaith mawr a gwaith wedi'i gynllunio.
  • Byddwn yn ymgynghori ac yn cyfathrebu â chi ynghylch unrhyw waith mawr sydd wedi'i gynllunio ac atgyweiriadau mawr.
  • Cadw at adran 20 o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni roi manylion i chi a gofyn am eich sylwadau am waith a gwasanaethau arfaethedig.
  • Cynnal archwiliadau risg tân rheolaidd gofynnol ac unrhyw wiriadau ac archwiliadau statudol eraill, lle mae ardaloedd cymunedol.
  • Byddwn yn mynd ati i ddilyn ôl-ddyledion sy'n ddyledus ar daliadau gwasanaeth ac yn ymgysylltu â chi i drafod a threfnu cynllun talu fforddiadwy.