Tacluso ein trefi
Mae Tîm Tacluso'r Gwasanaeth Tai yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio a glanhau cyffredinol i ystadau a chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
Mae'r tîm eisoes wedi gwneud cynnydd gwych, gan gwblhau tasgau amrywiol mewn ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys:
- Clirio gordyfiant mewn meysydd parcio ac ardaloedd cymunedol
- Clirio a glanhau cwteri
- Paentio gatiau gardd
- Cynnal a chadw waliau gan gynnwys ailosod cerrig copa
- Cynnal a chadw/tacluso cyffredinol
Mae'r tîm hefyd yn cynorthwyo tîm Atgyweiriadau Tai y Cyngor, gan wneud tasgau fel a ganlyn:
- Atgyweirio drysau, cloeon a gosodiadau
- Gwaith coed sylfaenol fel trwsio drysau cwpwrdd ac atgyweirio paneli ffens sydd wedi'u difrodi
- Gosod offer cartref
- Atgyweirio tapiau, mecanweithiau fflysio toiledau a gosod gosodiadau sylfaenol
- Atgyweirio waliau mewnol
- Delio â cheisiadau cynnal a chadw brys, ar raddfa fach