Tîm Tacluso

Tacluso ein trefi

Tîm Tacluso yw menter Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n ceisio gwella glendid a golwg canol ein trefi.

 

Mae'r prosiect yn cynnwys rhaglen waith gynhwysfawr, gan gynnwys cael gwared â graffiti a phosteri a osodwyd yn anghyfreithlon, golchi asedau dan wasgedd, glanhau cynteddau, tynnu chwyn, paentio, a gweithgareddau glanhau perthnasol eraill. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd timau tacluso arbenigol yn cyflawni dyletswyddau amrywiol y tu hwnt i weithgareddau glanhau arferol gan dimau glanhau neu briffyrdd i lanhau canol trefi dynodedig yn ddwys.

 

Bydd y fenter yn dechrau ei gweithrediadau drwy ganolbwyntio ar y tair prif dref, sef Llanelli, Caerfyrddin, a Rhydaman. Bydd y rhaglen yn ymestyn ei chyrhaeddiad yn ystod y misoedd nesaf, gan ehangu i gyfanswm o ddeg tref ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

Bydd y gwaith yn cyfrannu at nod y cyngor o reoli a chynnal asedau seilwaith allweddol sy'n cynnwys priffyrdd, draenio, gwasanaethau stryd ac amwynderau lleol.