Addysg ddwyieithog

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Yn Sir Gaerfyrddin y mae’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg o holl siroedd Cymru, ac felly’r byd! Mae tua thri chwarter o bobl y byd yn siarad dwy iaith neu ragor. Felly, beth yw ystyr bod yn ddwyieithog? Y gallu i fyw eich bywyd bob dydd yn defnyddio dwy iaith. Y gallu i newid o un iaith i’r llall yn rhugl a hyderus pan fyddwch yn dymuno.

Gall pob plentyn yn Sir Gâr ddod yn ddwyieithog drwy gael addysg Gymraeg. Dyma sut...

Fe allwch chi ddechrau taith eich plentyn at ddwyieithrwydd o’r crud…

Grwpiau Cymraeg i Blant

Grwpiau i rieni plant ifanc iawn (babis yn bennaf ) sy'n cefnogi ac annog rhieni a darpar rieni i drosglwyddo'r Gymraeg i'w plant

Cylchoedd Ti a Fi

Grwpiau i rieni a phlant bach lle gall eich plentyn fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau mewn awyrgylch Gymraeg

Meithrinfeydd

Mae yna feithrinfeydd dydd Cymraeg a dwyieithog sy’n cyflwyno’r Gymraeg i blant o’r cychwyn, drwy weithgareddau yn Gymraeg a thrwy gyfathrebu’n Gymraeg gyda’r babis a’r plant bach

Cylchoedd Meithrin

Sesiynau addysg a datblygiad i blant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae yn Gymraeg

Dosbarthiadau Meithrin yn yr ysgol

Mae gan rai ysgolion ddosbarthiadau Meithrin a bydd y dosbarthiadau hyn fel arfer yn Gymraeg os yw’r ysgol yn un Gymraeg.

Os nad ydych chi’n siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni. Mae’r sefydliadau i gyd yn croesawu rhieni di-Gymraeg sydd am gyflwyno’r Gymraeg i’w plant. Ceisiwch siarad cymaint ag y gallwch yn Gymraeg gyda’ch plant. Fe fydd hyn yn eu cynorthwyo i siarad yn naturiol a hyderus.

Yn Sir Gâr, ceir addysg cyfrwng Cymraeg i holl blant a phobl ifanc o fewn cyrraedd rhesymol i’w cartrefi. Mae addysg Gymraeg yn defnyddio Cymraeg fel cyfrwng addysgu, ac fe fydd y plant yn dysgu Cymraeg a Saesneg fel pwnc yn ogystal. Bydd plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gallu trosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg, beth bynnag yw iaith y cartref.

Mae’r plant yn siarad Cymraeg yn y dosbarth ac yn cael eu hannog i ddefnyddio Cymraeg wrth gymdeithasu ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae cael profiad o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn gwella safon eu Cymraeg ac yn sicrhau eu bod yn dod, ac yn aros, yn gwbl ddwyieithog.

Mae Siarter Iaith yn cael ei weithredu yn ysgolion cynradd Sir Gâr sy’n gymorth i gynnig mwy o gyfleoedd i blant ddefnyddio Cymraeg yn gymdeithasol. Mae arbenigwyr yn cydnabod bod angen i iaith leiafrifol fel Cymraeg gael ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd er mwyn i berson fod yn wirioneddol ddwyieithog.

Pwy fyddai’n meddwl?!

Nid oes yn rhaid i blant ifanc ddysgu ieithoedd fel y mae oedolion yn gwneud. Gallant ymsugno ieithoedd newydd os ydynt yn dod i gysylltiad digonol â nhw.

Mae addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol i bob cartref yn Sir Gaerfyrddin. Gall unrhyw blentyn sydd yn rhugl ddwyieithog yn yr ysgol gynradd ddilyn llwybr llyfn i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Yn union fel yn y cynradd, fe addysgir Cymraeg a Saesneg fel pynciau unigol mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Defnyddir y Gymraeg hefyd fel cyfrwng addysgu ar gyfer pynciau eraill ac fel cyfrwng gweithgareddau allgyrsiol. Fel hyn, mae dwyieithrwydd person ifanc yn cael ei gynnal a’i ddatblygu drwy gydol ei addysg.

Fe fydd disgwyl i berson ifanc sydd wedi dilyn addysg Gymraeg yn y cynradd i barhau gyda’r rhaglen hon yn yr uwchradd er mwyn iddynt allu parhau i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol hyd nes iddynt adael ysgol uwchradd. Os ydych yn ansicr ynglŷn â’r llwybr y dylai eich plentyn ddilyn o’r cynradd i’r uwchradd o safbwynt cyfrwng dysgu, fe fydd yr ysgol gynradd ac ysgolion uwchradd cyfagos yn gallu rhoi arweiniad i chi.

Gan fod Saesneg yn iaith sy’n dominyddu’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol ayb, bydd sgiliau Cymraeg bobl ifanc yn cael eu hatgyfnerthu os ydynt yn defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth gymaint â phosibl. Mae bob amser yn syniad da i roi’r cyfle iddynt i ddefnyddio Cymraeg gartref, yn eu gweithgareddau hamdden neu wrth wylio’r teledu. Yr allwedd i bobl ifanc fod yr un mor hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg yw iddynt barhau i gymryd mantais o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol gynradd. Os ydy person ifanc yn ddwyieithog yn 16 neu 18 oed, gall e/hi addasu’n arbennig o dda at astudiaethau pellach drwy’r naill iaith neu’r llall mewn unrhyw bwnc.

Mae cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr ar y cyrsiau addysg bellach, addysg uwch a’r prentisiaethau ar bum campws y Coleg.

Mae darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y meysydd canlynol: Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Busnes, Celf a Dylunio, Arlwyo, Addysg, Adeiladwaith, Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Amaethyddiaeth.

Gall myfyrwyr gael lleoliadau gwaith dwyieithog a gwella eu sgiliau Cymraeg wrth ddilyn uned gwasanaeth cwsmer yn y meysydd galwedigaethol a fydd o gymorth wrth iddynt fynd i fyd gwaith.

Mae prifysgolion yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r byd yn croesawu myfyrwyr sydd wedi astudio eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Drindod Dewi Sant yw un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae modd astudio nifer cynyddol o raglenni israddedig ac ôlraddedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar Gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin gan gynnwys Hyfforddi Athrawon (addysg gynradd), Addysg Gorfforol, Addysg Awyr Agored, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, Astudiaethau Addysg Gynradd, Busnes ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae’r Brifysgol yn darparu cefnogaeth i’r myfyrwyr hynny sy’n ansicr ynghylch astudio eu cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddarparu rhaglenni Gloywi Iaith ar y Campws a thrwy apiau a rhaglenni dysgu o bell.

Gall pobl ifanc gael bwrsariaeth ar lefel addysg uwch i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae partneriaeth rhwng Coleg Sir Gâr a’r Brifysgol yn cynnig bwrsariaethau dilyniant i annog myfyrwyr o Goleg Sir Gâr i barhau â’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Gall myfyrwyr gynnig am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Addysg ac Ysgolion