Log in to My Account
Rhowch eich côd post a dewiswch eich cyfeiriad i gael gwybod pryd bydd eich casgliad ailgylchu / sbwriel nesaf a pha liw bag fydd yn cael ei gasglu.
Ticiwch y blwch hwn i ddangos eich diwrnod / calendr casglu gwastraff gardd.
Ticiwch y blwch hwn i weld eich calendr / diwrnod casglu gwastraff hylendid / cewynnau
Byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho'ch calendr casglu.
Cesglir yn wythnosol o bob tŷ, dim terfyn ar faint rydych chi'n ei roi allan. Cofiwch wagio a rinsio cynwysyddion yn gyntaf.
Bagiau glas - Ailgylchu
Cesglir yn wythnosol gyda’r bagiau glas o bob tŷ, ar gyfer pob bwyd amrwd ac wedi'i goginio. Defnyddiwch y bagiau leinio a ddarperir, gellir cael biniau newydd.
Gwastraff bwyd
Cesglir bob 3 wythnos, hyd at 3 bag fesul casgliad. Ni ddarperir bagiau, defnyddiwch fagiau 60 litr maint safonol yn unig. Ewch i'n tudalen bagiau du am fwy o gyngor.
Bagiau du
Cesglir bob 3 wythnos ar yr un diwrnod â'ch bagiau du. Ar gyfer poteli a jariau gwydr gwag. Gallwch wirio eich diwrnod casglu ar y dudalen hon i weld a ydym yn casglu o'ch eiddo
Gwasanaeth casglu gwydr
Gallwch bellach gofrestru i dderbyn naill ai e-bost neu neges destun i’ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a bagiau du.
Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
Gall y casgliadau gwastraff gael eu heffeithio gan fynediad, argaeledd adnoddau neu'r tywydd.
Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
Ewch i’n tudalen we sbwriel sydd heb ei gasglu am ragor o gyngor a sut i roi gwybod am y broblem.
Sbwriel heb ei gasglu
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau am eich ailgylchu, casgliadau gwastraff gardd, hawlenni canolfan ailgylchu a mwy...
Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Edrychwch ar ein canllaw A-Z o ailgylchu am restr lawn o'r hyn y gallwch ei ailgylchu a ble. Ceir awgrymiadau hefyd ar sut i leihau eich gwastraff ymhellach.
A-Y o Ailgylchu
Os oes gennych wastraff hylendid, neu cewynnau plant, caiff rhain eu casglu mewn bag porffor. Ewch i’n tudalen gwastraff hylendid/cewynnau i gael mwy o wybodaeth.
Gwastraff hylendid a chewynnau
Mae'r casgliadau bob pythefnos rhwng Mawrth a Thachwedd. Darperir whilfiniau ar gyfer y gwasanaeth hwn, ond rhaid i chi danysgrifio yn gyntaf ac mae tâl am hwn.
Gwastraff gardd
Rydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a byddwn yn gallu casglu hyd at dair eitem fawr megis oergell, wardrob ac ati am £25 o'ch man casglu arferol.
Gwastraff swmpus
Os ydych yn oedrannus, yn fethedig neu'n anabl ac angen cymorth gyda’ch sbwriel, ffoniwch 01267 234567 i weld a allwn ni gasglu eich sbwriel o garreg eich drws neu leoliad arall.