Bywyd Gwyllt yn eich Ward

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/10/2023

Mae Sir Gaerfyrddin yn cael ei dathlu, ac yn haeddiannol felly, am yr amrywiaeth yn ei hamgylchedd naturiol, o'r ucheldiroedd yng ngogledd ddwyrain y sir i'n harfordir godidog.

Mae pob ward yn cyfrannu at y rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o gynefinoedd bywyd gwyllt sydd yn y sir, boed hynny'n goetiroedd, yn laswelltiroedd, yn berthi, yn afonydd neu'n erddi.

Mae Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin wedi cael cyllid y gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Partneriaeth Natur Leol Cymru i greu proffiliau byr ar gyfer wardiau Sir Gaerfyrddin, a hynny er mwyn tynnu sylw at yr amgylchedd naturiol ym mhob ward yn y sir.

Cafodd y proffiliau eu creu mewn partneriaeth â Chanolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru a ddarparodd data a mapiau i helpu i strwythuro'r proffiliau.

Defnyddiwch broffiliau ein wardiau i archwilio eich ardal leol a chofnodi'r hyn a welwch.

Mae'r proffiliau hyn yn cynnwys:

  • Rhywogaethau arbennig yn eich ardal
  • Gwybodaeth ynghylch sut y gallwch gymryd rhan a helpu i warchod y bywyd gwyllt yn lleol
  • Sut i gofnodi rhywogaethau yn eich ardal
  • Safleoedd o ddiddordeb arbennig yn eich ardal, megis ardaloedd cadwraeth
  • Safleoedd a llwybrau cerdded lleol i'w harchwilio

Mae dolenni yn y proffil a fydd yn eich helpu i gael rhagor o wybodaeth ac i weithredu'n lleol. 

Cynllunio