Gwneud cais i gael gwared â gwrych

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Yn ôl pob tebyg, mae gan Sir Gaerfyrddin un o’r rhwydweithiau mwyaf cymhleth o wrychoedd mewn unrhyw ran o Gymru, ac ar draws y sir mae ein perthi’n dal i gael eu cynnal a’u cadw at ddibenion amaethyddol. Fel nodweddion a sefydlwyd ers amser maith yn y dirwedd, yn aml yn darparu llwybr rhwng cynefinoedd eraill, maent wedi dod yn hynod gyfoethog o ran y bywyd gwyllt y maent yn ei gefnogi.

Mae yna reoliadau i amddiffyn gwrychoedd pwysig, yn enwedig perthi sydd dros 20 metr o hyd neu sy’n cysylltu â pherthi eraill yn y ddau ben. Dylid nodi nad yw hyn yn effeithio ar berthi mewn gerddi.

O dan Reoliadau Perthi 1997 (SI 1160) mae’n anghyfreithlon clirio’r mwyafrif o berthi yng nghefn gwlad (ac eithrio’r rhai sy’n creu ffiniau gerddi) heb ganiatâd. Gall y ffordd y mae'r Rheoliadau yn berthnasol i wrychoedd fod yn eithaf cymhleth, felly fe'ch cynghorir i drafod eich cynigion gyda ni yn gynnar.

Mae rhai coed gwrychoedd hefyd yn dod o dan Orchmynion Cadw Coed. Cyn gwneud unrhyw waith i'r coed hyn, bydd angen i chi gysylltu â ni i gael y caniatadau angenrheidiol.

I gael caniatâd i glirio perth, mae’n rhaid i chi ysgrifennu atom ni. Bydd angen i chi gyflwyno cais i gael gwared â gwrych a chynllun sy'n dangos y gwrych dan sylw. Fel arfer bydd eich cais yn cael ei benderfynu o fewn 42 diwrnod.  Ni chodir tâl am y cais hwn.

Os byddwn ni’n penderfynu gwahardd clirio perth "bwysig”, mae’n rhaid i ni roi gwybod i chi o fewn 6 wythnos. Os byddwch yn gwaredu perth heb ganiatâd, p’un a ydyw’n bwysig neu beidio, gallech gael eich erlyn. Hefyd yn ôl pob tebyg bydd yn rhaid i chi osod perth newydd.

Mae angen caniatâd arnoch i glirio perth os ydyw mewn un o’r mannau canlynol:

  • Tir amaethyddol
  • Tir comin
  • Tir coedwigaeth
  • Padogau
  • Gwarchodfa Natur Leol
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Nid oes angen caniatâd arnoch o dan y rheoliadau hyn o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os yw’r berth yn eich gardd neu’n ffinio â’ch gardd.
  • Os ydych yn ei chlirio i gael mynediad naill ai yn lle mynediad presennol, (dylid ailblannu’r berth cyn pen 8 mis ar ôl gwneud yr agoriad newydd), neu lle nad oes dull mynediad arall, neu lle nad oes modd sicrhau hynny ond am gost anghymesur
  • I sicrhau mynediad dros dro i roi cymorth mewn argyfwng
  • I gydymffurfio â rhybudd statudol i atal ymyrraeth â llinellau trydan
  • Yng nghyswllt gwaith statudol ar gyfer draenio neu amddiffyn rhag llifogydd.
  • I roi caniatâd cynllunio ar waith (ac eithrio yn achos hawliau datblygu a ganiateir)

OND mae’n rhaid i chi wirio nad oes unrhyw gyfamodau, caniatâd cynllunio neu amodau sy’n golygu bod rhaid cadw’r perthi.

Sut mae gwneud cais?

Rydym yn eich annog i gyflwyno'ch ceisiadau cynllunio ar-lein drwy Ceisiadau Cynllunio Cymru.

Dechrau cais cynllunio ar-lein

Lawrlwythwch ffurflen hysbysiad gwaredu perth

Cymorth i lenwi ffurflen gais am hysbysiad gwaredu perth

 

Cynllunio