Tir comin

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae oddeutu 8.4% o arwynebedd Cymru yn dir comin cofrestredig, sy'n creu cyfanswm o ryw 175,000 o hectarau. Mae llawer o leiniau bach o dir comin yn ymyl ei gilydd, gan greu ardaloedd eang o dir comin ledled Cymru. Gall fod gan y lleiniau bach hyn o dir comin berchnogion a deiliaid hawliau gwahanol.

Mae llawer o dir comin yn bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru drwy ddarparu tir pori i ddefaid a gwartheg. Ar ben hynny, mae llawer o dir comin yn cael ei fwynhau yn sgil diddordebau hamdden ac amgylcheddol. Mae rhai mewn Parciau Cenedlaethol, neu ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall tir comin ddarparu cynefin pwysig ar gyfer adar, bywyd gwyllt a phlanhigion a ddiogelir.

Bydd Deddf Tiroedd Comin 2006 yn diogelu tir comin ar ein cyfer ni heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â sicrhau manteision gwirioneddol o safbwynt ffermio cynaliadwy, mynediad i'r cyhoedd a bioamrywiaeth. Nod y Ddeddf yw:

  • diogelu tir comin rhag cael ei ddatblygu
  • caniatáu rheolaeth fwy cynaliadwy ar dir comin
  • gwella'r gwaith i ddiogelu tir comin rhag cael ei esgeuluso a'i gam-drin; a
  • moderneiddio'r broses o gofrestru tir comin a meysydd er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael eu diogelu yn yr un modd.

Arolygiaeth Gynllunio Cymru sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau o dan adran 38 o’r Ddeddf sy’n ymwneud â thiroedd comin a meysydd tref neu bentref.

Mae'r Gofrestr Tir Comin ar gael i’r cyhoedd i'w harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol. Os hoffech wneud apwyntiad i weld y gofrestr, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Taliadau

Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais i gael rhai mathau o wallau wedi'u cywiro yn y gofrestr tir comin. Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd amgylchiadau lle mae'n ofynnol i ni gyfeirio cais i'r Arolygiaeth Gynllunio. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol i'r Arolygiaeth Gynllunio i dalu am gost eu elfen o'r gwaith.

Math o gais Ffi
Chwiliad Tir Comin £20
Ymchwiliadau i'r Gofrestr Tir Comin £30 yr awr
Adran 19 (2)(a)
Cywiro camgymeriad a wnaed gan awdurdod cofrestru.
Dim ffi
Adran 19 (2)(b)
Cywiro unrhyw gamgymeriad arall na fyddai'n effeithio ar faint y tir comin neu'r maes tref neu bentref, neu'r hyn y gellir ei wneud yn rhinwedd hawl tir comin.
£159
Adran 19 (2)(c)
Dileu cofnod a gafodd ei gynnwys fwy nag unwaith ar gofrestr.
Dim ffi
Adran 19 (2)(d)
Diweddaru enwau a chyfeiriadau y cyfeirir atynt mewn cofrestr.
£26.56
Adran 19 (2)(e)
Diweddaru cofnod i ystyried croniannau neu ddilywio.
£26.56
Atodlen 2, Paragraff 2 neu 3
Tir comin neu faes tref neu bentref sydd heb fod wedi'i gofrestru.
Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 4
Tir diffaith y faenor sydd heb fod wedi'i gofrestru'n dir comin.
Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 5
Maes tref neu bentref sydd wedi'i gofrestru'n anghywir yn dir comin.
Dim ffi
Atodlen 2, paragraffau 6 - 9
Dadgofrestru tir penodol sydd wedi'i gofrestru'n dir comin neu'n faes tref neu bentref.
£1062

Cynllunio