Ynni Adnewyddadwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae Strategaeth Ynni Adnewyddadwy y DU, Gorffennaf 2009, yn amlinellu llwybr y Llywodraeth o ran sicrhau y cynhyrchir 15% o ynni'r wlad o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Mae angen i awdurdodau cynllunio lleol helpu i gyflawni'r targed hwn trwy'r system gynllunio a dangos y cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer dyfodol carbon isel mewn hinsawdd sy'n newid.

Mae ynni gwynt ar y tir eisoes yn chwarae rhan fawr o ran darparu trydan adnewyddadwy yn Sir Gaerfyrddin. Ond nid hwn yw'r unig ddull o gyflenwi ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin lle mae nifer o adnoddau adnewyddadwy y gellir eu defnyddio.

Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd

Cyflwynwyd Deddf Cynllunio 2008 er mwyn symleiddio’r broses benderfynu ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd, gan ei gwneud yn decach ac yn gynt i gymunedau a datblygwyr fel ei gilydd.

Mae prosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd yn ddatblygiadau seilwaith mawr yng Nghymru a Lloegr, megis cynigion ar gyfer gweithfeydd pŵer, prosiectau ynni adnewyddadwy mawr, llinellau pŵer, meysydd awyr newydd ac estyniadau i feysydd awyr, prosiectau ffyrdd mawr ac ati.

Cyflwynir ceisiadau i’r Arolygiaeth Gynllunio i gael eu hasesu ac mae’n rhaid i adroddiad gael ei baratoi i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wneud y penderfyniad terfynol.

Trefn Ffioedd Cyn Ymgeisio ar gyfer Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd 

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio, y codir ffi amdano, i ddatblygwyr Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd. Mae’r canllawiau atodedig yn nodi lefel y cyngor y gall datblygwyr ei ddisgwyl ac yn unol â pha amserlen. Bydd y cyngor a roddir o dan delerau’r canllawiau’n ymwneud â gwybodaeth y gofynnir amdani cyn cyflwyno’r Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd yn ffurfiol a hefyd cyngor sy’n ofynnol oddi wrth yr Awdurdod Lleol ar ôl i benderfyniad gael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhoddir eglurhad hefyd ynghylch datgelu gwybodaeth gyhoeddus a gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif, ynghyd â rhestr o’r ffioedd a’r gweithdrefnau talu cysylltiedig.

Ynni’r Gwynt ac Ynni’r Haul Canllawiau Cynllunio Atodol

Mabwysiadwyd Canllawiau Cynllunio Atodol - Ynni'r Gwynt ac Ynni'r Haul ym mis Mehefin 2019 a gellir eu gweld yn yr adran dogfennau i'w lawrlwytho isod.

Cynllunio