Gweithio i ni

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/01/2024

Gwnewch wahaniaeth. Gweithiwch yn Sir Gaerfyrddin.

Sir Gaerfyrddin yw un o'r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a'r Cyngor Sir yw'r cyflogwr mwyaf yn lleol gan ei fod yn cyflogi tua 8,300 o staff. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, cynnal a chadw priffyrdd, casglu gwastraff, cyfleusterau chwaraeon a hamdden i enwi ond ychydig. Mae'r cyfleoedd gyrfa gyda ni yn amrywiol ac yn rhoi llawer o foddhad!

Mae'r Cyngor yn gyflogwr gofalgar ac mae'n Fuddsoddwr mewn Pobl. Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion dysgu a datblygu er mwyn cefnogi ein gweithwyr i feithrin eu sgiliau, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio a buddiannau er mwyn helpu pobl i gydbwyso bywyd a gwaith. Rydym yn cydnabod ac yn cymell blaengarwch, gwaith rhagorol a safonau o'r radd flaenaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu â'n staff ac i wrando arnynt ynghyd â hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

P'un a ydych chi'n chwilio am waith hyblyg tra bod y plant yn yr ysgol, rôl reoli, neu i gymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, gallwch ymuno â'n tîm blaengar i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

Mae gofal cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac mae'r cyngor yn parhau i wneud gwelliannau i ddarparu gwasanaethau gwell i'r bobl sydd fwyaf pwysig - preswylwyr Sir Gaerfyrddin.

Mae'r tudalennau isod yn cynnwys gwybodaeth am sut beth yw gweithio gyda ni a'r ffordd o fyw y gallwch chi ei mwynhau yn Sir Gaerfyrddin.