Grant cychwyn busnes
Yn yr adran hon
8. Caffael
Canllawiau Caffael
Prynu Nwyddau, gwasanaethau neu waith
Mae disgwyl i ymgeiswyr, wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, gynnal y broses honno mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn agored, yn rhoi gwerth yr arian ac yn deg. Rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y maent wedi’u hamlinellu yn yr adran hon. Ceir rhagor o fanylion cynhwysfawr y mae’n rhaid ichi eu darllen yn Atodiad 1.
Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf
Ar gyfer pryniannau sy'n is na £25,000 ystyriwch 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, rydym yn eich annog i archwilio'r farchnad i ganfod a oes unrhyw fusnesau o fewn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu. Mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a busnesau sy'n gweithredu o fewn y Sir ran fawr i'w chwarae yn adferiad economaidd Sir Gaerfyrddin ac mae datblygu cyflenwadau lleol yn hanfodol.
Trothwyon Caffael
